What Happens When Memory Dies
What Happens When Memory Dies
Mae Laolu Alatise a Yasmin Begum, gyda mentoriaeth gan Saqib Deshmukh, yn gweithio gyda’i gilydd ar Gyfnod Preswyl ar Leoliad sy’n rhychwantu Llundain a Chaerdydd. Wrth gynnal gwaith ymchwil, datblygu a chyfarfodydd rheolaidd ar-lein, maen nhw’n archwilio gweithiau drama Du ac Asiaidd gyfoes ac yn datblygu ysgrifennu cydweithredol mewn ymateb iddynt.
Mae Laolu a Yasmin yn archwilio bywyd bob dydd yng Nghymru a’r tu allan iddi. Wedi’i ysbrydoli gan eu perthnasoedd datblygol, agos, mae’r cyfnod hwn o ymchwil greadigol yn holi sut mae waliau cartref a llwyfan yn cynnwys ein geiriau. Mae What Happens When Memory Dies yn edrych ar gymdeithas, sbloets, cywilydd, sensitifrwydd a chyfrinachedd.
Cyfnodau Preswyl ar Leoliad 2020
Mae Cyfnodau Preswyl ar Leoliad yn brosiectau Datblygu Creadigol sy’n rhoi cyfle i artistiaid cyffrous i arwain ar ddatblygiad cynnar syniad newydd ar gyfer theatr, sydd wedi ei leoli’n benodol mewn safle yng Nghymru. Darllenwch am Gyfnodau Preswyl eraill 2020 yma.