A GOOD NIGHT OUT IN THE VALLEYS
Ynglŷn â’r Sioe
Mawrth 2010 / Sefydliadau y Glowyr, Cymoedd De Cymru
A GOOD NIGHT OUT IN THE VALLEYS

Mae bywydau yn y Cymoedd yn gwrthdaro mewn pentref dan fygythiad, cymuned wedi’i dal yn y gorffennol ond sy’n dyheu am ddyfodol.
Ym mis Mawrth 2010, teithiodd National Theatre Wales i gymoedd De Cymru gyda’i gynhyrchiad cyntaf, A Good Night Out in the Valleys. Agorodd y sioe, y gwerthwyd pob tocyn ar ei chyfer, yn Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon ar 11 Mawrth, cyn mynd ar daith o gwmpas De Cymru.
Roedd cast o chwe actor – pob un yn hanu’n wreiddiol o’r Cymoedd – yn chwarae tua chwe chymeriad, gan amrywio o reolwr y Stiwt a phlant i hen wraig 115 oed a gweithiwr ffatri o Wlad Pwyl.
Wedi’i hysgrifennu gan Alan Harris a’i chyfarwyddo gan John E McGrath, roedd y sioe hefyd wedi gwahodd bandiau lleol i chwarae rhan mewn noson llawn cerddoriaeth fyw, bingo, raffl a theatr.
Tîm Creadigol
Alan Harris
Awdur
John E McGrath
Cyfarwyddwr
Angela Davies
Dylunydd
Ceri James
Dylunydd Golau
Mike Beer
Dylunydd Sain
Simon Clode
Dylunydd AV
Ross Leadbeater
Cyfarwyddwr Ymddangosol
Sam Jones
Cyfarwyddwr Castio
Andrew Ashenden
Cyfarwyddwr Ymladd
Dan Lawrence
Cyfarwyddwr Cerdd