18 - 26 Mehefin | Ty Dawns, Caerdydd
“rydyn ni’n dychwelyd i lwch y sêr”
Mae ffrindiau a theuluoedd yn ymgynnull ar y stryd y tu allan i gartref. Weithiau gyda sgidiau a rhawiau. Gyda’i gilydd maent yn rhannu mân siarad ac yn cydymdeimlo cyn ffarwelio â Butetown.
Yn ddiweddarach, mae straeon, atgofion a cherddoriaeth yn cymysgu â’u galar. Mae cân yn torri trwodd. Mae’r sain yn cael ei throi i fyny ac maent yn dawnsio.
Mae colled yn creu teimlad o anghytgord. Toriad yn rhythm bywyd. Ar adegau fel hyn, gall cerddoriaeth fod y peth sy’n gwneud i ni deimlo.
Mae’r gwneuthurwr ffilm a theatr Gavin Porter a chydweithfa o artistiaid yn dod â ni at ein gilydd i ddathlu bywyd mewn marwolaeth. Perfformiad dogfennol byw, wedi’i adrodd trwy straeon bywyd go iawn, wedi’i wreiddio mewn traddodiad, cerddoriaeth a chof.
Talu yn ôl eich Dymuniad
Ar gyfer pob perfformiad o Circle of Fifths, gallwch ddewis talu pris sy’n briodol i chi. Mae sawl pris i ddewis o’u plith. Rydyn ni’n gwybod bod pris yn rhwystr i rai, felly bydd y rhai sy’n gallu fforddio talu ychydig yn fwy am eu tocyn, yn ein helpu ni i gefnogi’r rhai na allant wneud hynny.
Gellir archebu tocynnau ar-lein, dros y ffôn neu yn bersonol trwy ein Partner Tocynnau Theatr y Sherman. Mae’r Telerau ac Amodau llawn i’w gweld yma.
Gellir prynu tocynnau hefyd ar noson pob perfformiad o’n man cychwyn ar Stryd Pierhead, y tu allan i’r Senedd. Gallwch ddod o hyd i ni yno 1 awr cyn dechrau’r sioe. Yn amodol ar argaeledd, wrth gwrs.
Dydd Iau 23 Mehefin, 6pm – perfformiad Sain Ddisgrifiad gan Alastair Sill.
Dydd Gwener 24 Mehefin, 8pm – perfformiad BSL gan Sami Dunn
Dydd Sadwrn 25 Mehefin, 6pm – Capsiynau byw gan Sheryll Holley
Cyn y sioe, bydd nodyn cyflwyno ar gael yma ac yn y Tŷ Dawns.
Mae’r Tŷ Dawns yn gwbl hygyrch drwyddo draw. Lleolir lifftiau ym mlaen tŷ a thu ôl i’r llwyfan i bob lefel ac i bob man.
Ble: Tŷ Dawns, Stryd Pen y Pier, Caerdydd, CF10 4PH
Gallwch ddod o hyd i’r Tŷ Dawns y tu ôl i Ganolfan Mileniwm Cymru ar Stryd Pen y Pier, gyferbyn â’r Senedd.
Bydd y sioe’n dechrau ar y stryd tu mas mynedfa’r Senedd
Ni fydd y rhai sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn mwy na 15 munud ar ôl dechrau’r perfformiad.
Does dim cyfleusterau lluniaeth tu mewn i’r Tŷ Dawns ond mae digon o luniaeth ar gael yng Nghanolfan Mileniwm Cymru neu mewn sawl lle yn yr ardal.
Cerddor
Cerddor
Perfformiwr
Perfformiwr
Perfformiwr
Perfformiwr
Cyfarwyddwr
Dylunydd Set a Gwisgoedd
Dylunydd Golau
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Artist Cyswllt