FOR MOUNTAIN, SAND & SEA
Ynglŷn â’r sioe
Mehefin 2010 / Yn y Bermo
FOR MOUNTAIN, SAND & SEA
Mae gweithiau Marc Rees yn adnabyddus am eu dehongliadau o hanes, diwylliant a phrofiad personol sy’n lliwgar, digrifol ac, yn aml, yn eithafol. Enillodd gais Cymru ar gyfer prosiect Olympiad Diwylliannol Llundain 2012 ‘Artists Taking the Lead’ gyda’i waith Adain Avion, pan oedd wedi cludo corff awyren DC9 ar draws Cymru fel gofod celf teithiol.
Dilynodd For Mountain, Sand & Sea yn ôl troed gwibdeithwyr Oes Victoria a oedd yn arfer ymweld ag arfordir Cymru yn ystod misoedd yr haf. Wedi’u rhannu’n ddau grŵp, byddai un yn archwilio’r mynyddoedd tra byddai’r llall yn mynd i’r arfordir. Yn ‘For Mountain, Sand & Sea’, roedd National Theatre Wales yn gwahodd y gynulleidfa i fod yn wibdeithwyr am y dydd, ac archwilio hanes cudd y Bermo. Roedd artistiaid o bedwar ban byd, ynghyd ag o’r gymuned leol, yn gwneud ‘For Mountain, Sand & Sea’ yn ddigwyddiad roedd rhaid ei weld.
Tîm Creadigol
Marc Rees
Cysyniad/Cyfarwyddwr Artistig
Benedict Anderson
Cydweithiwr Creadigol/Dramatwrg/Dylunydd
Siân Thomas
Cynhyrchydd Creadigol/Rheolwr Cynhyrchu
Gareth Clark
Holly Davey
Margea Palser
Cai Tomos
Guillermo Weickert
Artistiaid Cydweithredol
Neil Davies
Dylunydd Gwisgoedd
Jack Rendell
Elis Matthewson
Scott Williams
Laura Thomas
Michel Benson
Dave Berrill
Gwynfor Owen
Cast Cefnogol