Sir Benfro
Mae’r blaned hon mewn argyfwng. Yn ddigidol, rydym yn fwy cysylltiedig nag erioed o’r blaen, ac eto mae cynifer ohonom yn sôn am ymdeimlad cynyddol o ddatgysylltu oddi wrth eraill a’r byd naturiol o’n cwmpas …
Mae gwreiddiau’r syniad o rannu newyddion cymunedol a theuluol pwysig gyda gwenyn yn nhraddodiadau gwerin a mytholegol Cymru ac ar draws y byd. Yn ôl y stori, pryd bynnag y byddwn yn methu â gwneud hynny, bydd y gwenyn yn gadael eu cychod ac yn diflannu o’n hardal …
Dros y pedair blynedd diwethaf mae TEAM NTW wedi ymwreiddio yng nghymunedau Sir Benfro, gan archwilio’r pethau allweddol sydd bwysicaf i bobl y sir. Ar ôl penderfynu ar newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd fel y mater mwyaf brys, Go Tell the Bees yw’r ymateb a gyd-grëwyd gyda’r gymuned – gwaith newydd beiddgar sy’n ailddiffinio’r ffordd y gwneir theatr tra’n adrodd stori fyd-eang am ein cysylltiad dynol â byd natur ac â’n gilydd.
Rydym yn gobeithio gallu cyhoeddi mwy o fanylion yn fuan iawn, felly cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am fanylion. Yn y cyfamser, gallwch archwilio rhai o’r cenadaethau y mae pobl leol wedi bod yn cymryd rhan ynddynt isod ac, os oes gennych rai bach gartref, edrychwch ar ein hystorfa ddysgu o adnoddau addysgol ar gyfer CA2 a CA3.
Mae amser yn cael ei atalnodi gan eiliadau. Eiliadau sy’n newid pethau. Eiliadau sy’n gwneud inni stopio.
Roedd 8.07pm ar noson y 15fed o Chwefror, 1996, yn un o’r eiliadau hyn. 25 mlynedd yn ddiweddarach, mae arllwysiad olew y Sea Empress yn dal i fod yn ffres yng nghof Sir Benfro.
O syrffwyr i bysgotwyr, gweithwyr purfa olew i gapteiniaid llongau, cadwraethwyr i wleidyddion, dewch i glywed y straeon personol gan y bobl a oedd yno. Gyda delweddau breuddwydiol a cherddoriaeth atmosfferig gan John Lawrence o Gorky’s Zygotic Mynci, mae Sea Empress 25 yn adrodd hanes trychineb amgylcheddol y mae ei heffaith yn dal i gael ei theimlo heddiw.
Mae Sea Empress 25 yn ffilm gan Gavin Porter, a wnaed mewn cydweithrediad â Postcards and Podcasts.
Gwnaethoch flodau haul, a rhoi paent wyneb, a gwisgo dillad llachar, a dawnsio a dathlu ar gyfer ein Gorymdaith Rithwir. Os ydym o ddifrif am ddeall ein lle ym myd natur, mae angen i ni oedi a chymryd anadl. Clywed yr adar, y coed, gwylio’r blodau’n blodeuo a gwrando ar y môr gyda’r gweithgareddau diweddaraf fel rhan o Go Tell the Bees gyda #ntwTEAM
Mae’r storïwr Phil Okwedy yn mynd â chi drwy gyfres o bum stori, pob un â’u gweithgareddau eu hunain i chi eu cwblhau gartref.
Archwiliwch rym dychymyg a stori a chofiwch – ychydig o ddychymyg yn unig sydd ei angen i helpu i newid y byd.
Mae’r ail stori yn cynnwys themâu y gallai rhai eu cael yn annifyr. Efallai y byddai’n syniad da i rieni, gwarcheidwaid neu athrawon wylio’r adran hon yn gyntaf cyn ei rhannu gyda’u plant neu eu disgyblion er mwyn iddynt fod yn barod ar gyfer unrhyw gwestiynau a allai godi o ganlyniad i’r stori hon.
Beth fyddwch chi’n ei ddweud wrth y gwenyn?
Mae gan Frenhines y Gwenyn neges i ni fodau dynol, neges i’n helpu ni i adfer y cydbwysedd gyda natur.
Yn y gorffennol, roedd bodau dynol yn gweld gwenyn fel cysylltiad â’n hynafiaid a natur; yn y traddodiad Celtaidd, hwy oedd y negeswyr rhwng ein byd ni a byd yr ysbrydion ac felly roeddem yn arfer dweud ein newyddion wrth y gwenyn drwy straeon, drwy farddoniaeth a thrwy gelfyddyd er mwyn i’r gwenyn aros yn agos. Roedden ni’n gwybod y bydden ni’n colli popeth hebddynt.
Mae National Theatre Wales bellach yn eich gwahodd unwaith eto i ddweud wrth y gwenyn eich hanesion, eich newyddion, i helpu i’w cadw’n agos. Sut ydych chi’n cysylltu â natur? Pa wersi yr ydych chi wedi eu dysgu oddi wrth eich hynafiaid? Beth yw eich gobeithion ar gyfer y dyfodol? Beth yw eich neges chi i’r gwenyn?
Pan fyddwch wedi creu eich neges, anfonwch hi atom drwy’r ffurflen hon
Ar ôl i ni gasglu eich caneuon, eich straeon, eich barddoniaeth a’ch fideos byddwn yn eu hymgorffori yn ein sioe Go Tell The Bees, sy’n cael ei chynnal ym Mhenfro a Maenorbŷr yn 2021. Byddwn hefyd yn defnyddio rhai ohonynt ar-lein ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol dros y 12 mis nesaf – cadwch lygad allan am eich un chi!
Rydym wedi gwneud ein blodau haul, wedi creu ein straeon ac wedi siarad â’r gwenyn. Nawr, gydag ychydig o weithredoedd syml gallwn newid sut rydym yn rhyngweithio â’n hamgylchedd, a sut rydym yn rhyngweithio â’n gilydd. Mae ein cenhadaeth nesaf, fel rhan o Go Tell the Bees, yn gofyn i bob un ohonom berfformio saith gweithred syml yn ein bywydau bob dydd.
Cliciwch ar y delweddau isod i gael mwy o syniadau ac ysbrydoliaeth ar bob Gweithred Syml.
Datblygwyd mewn cydweithrediad â Counterpoints Arts. Cefnogir gan Little Green Grant a Bluestone Foundation.