Gorymdaith Rithwir Go Tell The Bees

Yn ffaglu ar draws yr awyr, mae Olwen, duwies Gymreig yr haul, yn eich galw.
Nid yw’r gwenyn yn hapus; rydym wedi anghofio sut i siarad â nhw a Heuldro’r Haf yw ein cyfle nesaf i gael eu sylw.
Gorymdaith Rithwir Go Tell The Bees
Ar-lein
Gorymdaith Rithwir Go Tell The Bees

Mehefin 2020
Yn ffaglu ar draws yr awyr, mae Olwen, duwies Gymreig yr haul, yn eich galw.
Nid yw’r gwenyn yn hapus; rydym wedi anghofio sut i siarad â nhw a Heuldro’r Haf yw ein cyfle nesaf i gael eu sylw.
Mae Olwen yma i roi cychwyn ar bethau a chyd-drafod gyda’r gwenyn ar ein rhan. Ymunwch â hi a phobl Sir Benfro am gynulliad rhithwir wrth i ni droi ein hwynebau tuag at y golau, rhoi rhodd i’r gwenyn o fôr o flodau haul a wnaed â llaw a dawnsio a chanu i addoli’r haul.
A fydd y gwenyn yn gwrando arnom ni nawr? Beth fyddwn ni’n ei ddweud wrthynt?
Daeth Gorymdaith Rhithwir Go Tell The Bees â phobl Sir Benfro a thu hwnt at ei gilydd i ddathlu cerddoriaeth, dawns, storïau a digon o flodau haul. Cenhadaeth blodyn yr haul yw ceisio gwneud y byd yn lle mwy cadarnhaol i fyw ynddo!
Dros y pedair blynedd diwethaf mae TEAM NTW wedi ymwreiddio yng nghymunedau Sir Benfro, gan archwilio’r pethau allweddol sydd bwysicaf i bobl y sir. Go Tell the Bees yw’r ymateb a gyd-grëwyd gyda’r gymuned – gwaith newydd beiddgar sy’n ailddiffinio’r ffordd y gwneir theatr tra’n adrodd stori oesol am ein cysylltiad dynol â byd natur ac â’n gilydd. Bydd Go Tell The Bees yn cael ei rannu dros benwythnos yn erbyn cefndir hudolus Sir Benfro; dathliad mewn arddull gŵyl o greu rhwng TEAM National Theatre Wales, Celfyddydau Counterpoint a chymunedau lleol. Cliciwch yma i gael gwybod rhagor.
Gweithgareddau
Tîm Creadigol a Chyfranogwyr
Cyd-Grëwyr – Naomi Chiffi, Almir Koldzic, Gavin Porter & Julia Thomas
Dylunydd – Di Ford
Awdur/Perfformiwr – Carys Eleri (Olwen)
Perfformiwr – Ioan Hefin (Belenus)
Perfformiwr – Beatrix Morgan-Bell (Queen Bee)
Storïwr – Phil Okwedy
Awdur – Naomi Chiffi
Cynnwys fideo – Gavin Porter, Wayne Boucher & Jack Abbott
Animeiddiwr – Gemma Green Hope
Animeiddio Ychwanegol – Di Ford
Coreograffydd – Sean Griffiths
Cyfansoddwr – Branwen Munn, Carys Eleri, John Lawrence & Ben Mason
Rheolwr Llwyfan – Gemma Thomas
Technegydd – Dan Trenchard
Cymorth Technegol – Dewi Jones
Rheolwr Cynhyrchu – Nia Thomson
Cymorth Cynhyrchu (cyfranogiad) – Sophie Lewis, Fern Lewis & Angharad Tudor-Price
Cynhyrchwyr – Jenny Sturt & Devinda De Silva
Participants / Cyfranogwyr
Samba Doc
Bella Voce
Dawnswyr Kaleidoscope
Côr Cockles & Mussels
Grŵp Dawns Unison
Grŵp Drama Escape
Dawnswyr Gwyddelig Seren
Ysgol Gynradd VC Dinbych-y-Pysgod
Ysgol Gyfun Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr
Ysgol Gymunedol Doc Penfro
Ysgol Uwchradd Hwlffordd
Ysgol Hafan y Mor, Dinbych-y-pysgod
Ysgol Gynradd Maenorbŷr
Ysgol Gynradd Gelli Aur, Penfro
Ysgol Gymunedol Doc Penfro
Pobl Sir Benfro a thu hwnt
Diolch arbennig i – We Grow Pembs, Counterpoint Arts & Size of Wales