
LIFE COACH

Ymunwch â ni i archwilio sut y gallwch chi fod yn well, drwy ein rhaglen hunan-wella bum niwrnod unigryw, sy’n cyfuno disgyblaethau tri Hyfforddwr Bywyd a hunan-ddilyswyd, i ganolbwyntio ar eich PERSONOLIAETH, FFYNIANT A LLESIANT.
Ynglyn â'r LIFE COACH
Comisiynau Digidol Newydd Network
National Theatre Wales & Theatr Genedlaethol Cymru
gyda BBC Cymru a BBC Arts
LIFE COACH
Justin Teddy Cliffe
Mai 2020
A ydych chi byth yn poeni am yr hyn sy’n eich dal yn ôl?
A ydych chi byth yn meddwl pam eich bod mor wael ym mhopeth?
A ydych chi byth yn ystyried sut y gallech chi fod yn berson llawer gwell?
Oherwydd dyna rydyn ni’n ei wneud, a gallwn ddangos sut i chi.
Mae’n amser i ddatgloi eich pŵer, a newid eich bywyd am byth.
Bwriad LIFE COACH oedd i archwilio sut y gallwch chi fod yn well, drwy ein rhaglen hunan-wella bum niwrnod unigryw, sy’n cyfuno disgyblaethau tri Hyfforddwr Bywyd a hunan-ddilyswyd, i ganolbwyntio ar eich PERSONOLIAETH, FFYNIANT A LLESIANT.
Rhaglen ar-lein oedd LIFE COACH gyda’r bwriad o wwella eich iechyd, cyfoeth a hapusrwydd yn ddirfawr drwy ddiffinio popeth nad yw’n iawn gyda chi a datgelu un ‘dechneg’ amlygu hanfodol.
Y cyfan oedd ei angen arnoch oedd i ddod atom gyda meddwl agored, a pharodrwydd i wneud popeth a ddywedwn.
Profiad theatr digidol ymdrochol newydd oedd LIFE COACH, sy’n cynnal archwiliad coeglyd o ddiwylliant pop modern y gurus hunan-gymorth ar-lein. Wedi’i arwain gan dri hyfforddwr bywyd arbennig, fe’ch gwahoddir i gymryd rhan yn fyw dros gwrs pum niwrnod, neu gymryd eich sedd fel sylwedydd ar gyfer y gweithdy cychwynnol a’r seminar byw terfynol lle mae canlyniadau addewid y guru o hapusrwydd a gwelliant gwirioneddol am byth yn dod i’r amlwg …
Creative Team
Justin Teddy Cliffe
Cysyniad gwreiddiol / Cyfarwyddwr
Harriet Chomley, Justin Teddy Cliffe and Richard McIver
Awduron
Alex Bidhendy for Viper Drive
Cerddoriaeth
Justin Teddy Cliffe and Dom Farelli
Graffeg
Yr hyn i'w ddisgwyl
Profiad theatr digidol ymdrochol a grëwyd gan Justin Teddy Cliffe yw Life Coach, ac mae’n cael ei gyflwyno fel rhan o’n rhaglen Comisiynau Digidol Newydd Network.
Byddwn yn postio lincs i weld y perfformiad byw yma ac ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Gwyliwch neu cymerwch ran yn fyw:
Nos Iau 21 Mai am 7pm, 7.30pm ac 8pm
Dydd Sadwrn 23 Mai am 7pm
Bydd y seminarau yn cael eu darlledu’n fyw ar sianel AM National Theatre Wales
Os ydych yn dewis cofrestru a chymryd rhan, rydych yn cytuno i gael eich ffilmio a’ch recordio i’w defnyddio yn y seminarau byw canlynol, ac i’w defnyddio yn y dyfodol. Bydd y ‘seminarau’ yn cael eu ffrydio’n fyw, ac ar gael ar alw.
Yn dilyn y seminar nos Iau, bydd nifer cyfyngedig o gyfranogwyr yn cael eu dewis ar hap a’u gwahodd i gymryd rhan mewn sesiwn 1-2-1 gyda’u Hyfforddwr Bywyd dynodedig.
Gallwch ddewis peidio â chymryd rhan ar unrhyw adeg, dim ond i chi sôn.
Bydd lleoedd ar y rhaglen yn cael eu dyrannu ar hap.
Cwestiynau, neu heb fod yn dymuno cymryd rhan mwyach? Cysylltwch â boxoffice@nationaltheatrewales.org