NHS70: COME BACK TOMORROW
Ynglŷn â’r Sioe
Gorffennaf 2018 / Abertawe
NHS70: COME BACK TOMORROW

Jamaica, 1952 ac mae gan Gloria, 27, freuddwyd. Mewn gwirionedd, mae’n fwy na hynny. Mae ganddi weledigaeth. Nerth. Galwedigaeth. Mae am adael popeth ar ei hôl, y cyfan y mae wedi ei adnabod, a theithio miloedd o filltiroedd i ateb galwad y DU, sydd dal mewn cyflwr truenus ar ôl y rhyfel, ac mae am fod yn nyrs.
Pan mae’n cyrraedd yno – ac Abertawe yw’r yno hwnnw – does dim byd fel y meddyliodd y byddai, ond ‘dyw Gloria ddim yn fenyw i roi’r gorau i’w breuddwydion yn rhwydd iawn.
2018. Mae Judy, wyres Gloria, yn nyrs yn Abertawe. Fe dyfodd hi yn clywed straeon ei Mam-gu ynghylch gweithio yn yr ysbyty, ac yn dymuno bod jyst fel hi. Er mawr ddiflastod i Judy, mae’r naill lywodraeth ar ôl y llall wedi sigo ei GIG annwyl a bellach mae’r gwasanaeth ar ei liniau. Mae llawer yn sicr wedi newid ers dydd Gloria, a dim un peth er gwell.
Heddiw, mae Judy ar fin rhoi’r gorau i’r cwbl lot, ar fin rhoi’r gorau i nyrsio. Mae yna obaith egwan fodd bynnag, os gall hi ail-danio’r angerdd a fu ganddi am y gwaith, cofio’r storïau a rannwyd gan ei mam-gu yna mae yna bosibilrwydd bach …. y bydd hi’n dod yn ôl fory.
Mae’r sioe un fenyw ddoniol a theimladwy hon yn dod â bywydau dwy fenyw wahanol iawn yn fyw, y maent ill dwy yn rhannu’r un alwedigaeth a’r un cariad tuag at sefydliad unigryw, gyda hwnnw wedi ei danio yma yng Nghymru.
Tîm Creadigol
Paulette Randell
Cyfarwyddwr
Roy Williams
Awdur
Carl Davies
Dylunydd Set a Gwisgoedd
Katy Morison
Dylunydd Golau
Gareth Brierley
Dylunydd Sain