NHS70: Laughter is the Best Medicine
Ynglŷn â’r Sioe
Gorffennaf 2018 /Theatr y Lyric, Caerfyrddin
NHS70: Laughter is the Best Medicine

Noson unigryw llawn sêr o gomedi fyw a oedd yn diddanu mas draw, wedi’i harwain gan yr actor a’r comedïwr Elis James, yn ei dref enedigol ei hun, Caerfyrddin.
Prif seren y gig oedd Alan Davies (QI, Damned), gyda setiau gan Nish Kumar, Elis James, Angela Barnes, Steve Day, Ed Gamble, Rosie Jones, Nadia Kamil, Jonny Pelham a Colin Hoult fel Anna Mann, gyda phob un yn rhannu eu straeon personol a’u sylwadau ar thema iechyd.