NHS70: TOUCH
Ynglŷn â’r sioe
Gorffennaf 2018 / Bangor
NHS70: TOUCH

Mae’r darn cyffyrddol hwn o theatr yn dwyn ei ysbrydoliaeth o waith yr osteopath Julie Niche a thystiolaeth aelodau a staff y GIG.
Cymysgedd trawiadol o gelf wedi ei leoli, perfformiad a chyswllt â chynulleidfa, mae’r gwaith hwn wedi ei ysbrydoli gan waith yr osteopath Julie Nioche a thystiolaeth aelodau o staff a chleifion y GIG.
Gan ddefnyddio set finimalistig sy’n cynnwys darn mawr o bapur yn gorchuddio’r wal a’r llwyfan roedd NHS70:Touch yn wahoddiad i bobl gysylltu trwy eiriau. Wrth i’r perfformwyr greu rhwydwaith o eiriau atgofus, mae’r gofod noeth yn raddol yn cael ei weddnewid. Gwahoddir aelodau’r gynulleidfa i ymateb yn eu tro gyda’u geiriau eu hunain, gan greu darn unigryw o waith ym mhob un perfformiad.
Yn rhyngweithiol ac yn fyfyriol, bydd Touch yn archwilio pwysigrwydd cyffwrdd corfforol fel rhan o ofal a thriniaeth claf a’r rhwydweithiau rhyng-gysylltiol cymhleth o bobl o gwmpas taith rhywun o drawma i adferiad.
Tîm Creadigol
National Theatre Wales
Migrations o Lanrwst
Ffrengig Alexandre Meyer
Julie Nioche
Filiz Sizanli
Mustafa Kaplan
Artistiaid Cydweithredol
Laura Dannequin
Angharad Harrop
Cai Tomos
Simon Whitehead
Dawnswyr