No Petrol for 12 Miles

I ddatgelu ac ymchwilio ymhellach i fyd On Bear Ridge, mae National Theatre Wales gyda’i awdur a’i gyd-gyfarwyddwr Ed Thomas, wedi creu cyfres o osodweithiau safle-benodol yn yr awyr agored.
Ynglŷn â'r Safle
Penwyllt, Cymru
No Petrol for 12 Miles

No Petrol for 12 Miles
National Theatre Wales
Rhwng 7 Medi – diwedd Hydref 2019
Penwyllt, Cymru
Crëwyd gan Ed Thomas
Mae amser yn pasio, mae eira’n disgyn
Mae’r gwynt yn chwythu, a’r haul yn disgleirio
Beth sydd wedi digwydd yma?
Rhyfel? Troi allan? Difodiant?
Beth sydd ar ôl yn y dirwedd hynafol hon o graig a charreg?
O wlân defaid a chen yn hongian ar wifren rydlyd?
Beth yw’r cliwiau?
Beth sydd i’w ddarganfod?
Ai hwn yw Y Lle Olaf?
Ed Thomas, Mehefin 2019
I ddatgelu ac ymchwilio ymhellach i fyd On Bear Ridge, mae National Theatre Wales gyda’i awdur a’i gyd-gyfarwyddwr Ed Thomas, wedi creu cyfres o osodweithiau safle-benodol yn yr awyr agored.
Bydd y gosodweithiau hyn, ger Penwyllt, sy’n agos at gartref plentyndod Thomas, yn bodoli dros dro yn y dirwedd fel olion tameidiog o’r hyn oedd yno unwaith. Casgliad o bethau coll, synau ac atgofion aeth yn angof, yn suddo’n araf yn ôl i’r ddaear a’r graig.
Bydd y gosodwaith yn cynnig cyfle i ymwelwyr gael cipolwg ar fyd sydd wedi diflannu, gan eu galluogi i wrando’n ddigidol wrth ddrws a chlywed lleisiau’n sibrwd, hanner gwirioneddau a straeon anorffenedig o ffordd o fyw sydd nawr wedi’i thawelu. Stori na chafodd ei hadrodd erioed. Gweithred o gofio’r anghofiadwy.
Mae’r profiad hwn yn rhydd i’w archwilio.
Bydd cynulleidfaoedd yn Theatr y Sherman, Caerdydd a’r Royal Court, Llundain hefyd yn gallu profi’r gosodwaith drwy ffilm VR fydd ar gael i’w gwylio yn y ddwy theatr gan olygu y bydd tirwedd On Bear Ridge yn hygyrch yng nghanol y dinasoedd prysur hyn.
Bydd y profiad VR ar gael yn Theatr y Sherman 3 – 5 Hydref, ac yn y Royal Court 24 Hydref – 23 Tachwedd.
Gyda diolch i Hoobs Properties Ltd, Natural Resources Wales, a Clwb Ogofa De Cymru.
Sut i baratoi
Mae’r gosodwaith yn cynnwys seinlun yn y Gymraeg neu’r Saesneg sydd wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio gan unigolion sy’n dewis cerdded y llwybr, neu seinlun â fideo a fydd yn cael ei ddefnyddio gan bobl sy’n dewis mwynhau’r profiad o’r platfform gwylio statig.
Mae angen lawrlwytho’r rhain o’n gwefan a gellir eu chwarae drwy Vimeo.
Os nad oes gennych Vimeo ar eich dyfais, bydd angen i chi ei lawrlwytho – dilynwch y cyfarwyddiadau hyn.
1 – Ewch i App Store neu Google Play Store
2 – Chwiliwch am VIMEO a’i lawrlwytho
3 – Pan fydd wedi’i lawrlwytho, cliciwch ar eich dewis linc
Fersiwn Gymraeg (cerdded):
https://vimeo.com/358296980/864e80bb5f
Fersiwn Saesneg (cerdded):
https://vimeo.com/358270303/d2e25f15e9
Fersiwn Statig Gymraeg:
https://vimeo.com/358302274/f8f530ead5
Fersiwn Statig Saesneg:
https://vimeo.com/358283984/9449009cb4
Bydd hyn yn mynd â chi i’r seinlun neu’r fideo o’ch dewis.
Bydd yn gofyn i chi ymuno, sef enw a chyfeiriad e-bost. Neu gallwch sgipio ar ochr dde’r sgrin ar y brig.
Ar ôl hynny byddwch yn gweld y fideo.
1- Cliciwch ar y TRI DOT o dan y fideo ac i’r dde
Bydd bar cynnydd glas o dan y fideo, mae’n ffeil gymharol fach felly ni ddylai gymryd yn hir.
Pan fydd hynny wedi gorffen, gallwch ddiffodd eich rhyngrwyd a chlicio’r eicon llyfrnod.
Cyflwyniad gan Ed Thomas
Taith Adref.
Am dros 100 mlynedd roedd fy nheulu yn berchen ar siop gigydd fach a lladd-dy ym mhentref Cwmgiedd, nid nepell o Benwyllt yng Nghwm Tawe uchaf. Er i mi dyfu i fyny yno yn credu y byddwn i’n dilyn yn ôl traed fy nhad ac y gadewais y lle dros 30 mlynedd yn ôl, dyma’r lle yr wyf yn dal i freuddwydio amdano ac yn amlach na pheidio, yn llunio straeon amdano.
Ar ôl marwolaeth fy nhad yn 2012, gwnaeth siop y cigydd, fel y swyddfa bost a’r ysgol cyn hynny, gau ei drysau am y tro olaf. Mae ef a fy mam yn gorwedd wedi’u claddu yng nghapel Tyncoed wrth droed y cawr sy’n cysgu.
Yn 1942 daeth y gwneuthurwr ffilm Humphrey Jennings i Gwmgiedd i gyfarwyddo’r ffilm The Silent Village, sy’n adrodd hanes gwir dinistr creulon y Natsïaid yn y pentref glofaol Tsiec, Lidice. Mewn arddull ddogfen oedd yn torri tir newydd, ni wnaeth Jennings ddefnyddio unrhyw actorion, dim ond pobl y pentref yn byw eu bywydau bob dydd. Y canlyniad yw ffilm hynod o deimladwy a phwerus sy’n dal i brocio’r meddwl heddiw.
Yr oedd fy nhad yn y ffilm fel bachgen naw mlwydd oed yn yr ysgol, fel yr oedd fy nhad-cu yn siop y cigydd. Bu farw fy nhad-cu wythnos yn unig ar ôl i mi gael fy ngeni, felly roedd ei weld yn y ffilm fel cwrdd ag ef am y tro cyntaf.
Ac felly dechreuodd chwilfrydedd o ran sut y gwelais fy nheulu a’n cymuned ehangach. Fe wnaeth i mi edrych arnyn nhw drwy lens wahanol a thrwy gyfrwng gwahanol.
Rwyf wrth fy modd bod y lleisiau y byddwch yn eu clywed yn y gosodwaith yn cynnwys rhai o’r lleisiau o’r ffilm yn 1942. Bydd hefyd yn cynnwys recordiadau o leisiau a wnes yn ein siop ac yn y pentref wrth wneud dwy ffilm i’r BBC ac S4C yn 1992 a 2004.
Nid yw llawer o’r lleisiau gyda ni mwyach, ond i mi, bob tro y’u clywaf ym mryniau Penwyllt rwy’n hoffi dweud helo a diolch iddyn nhw. Mae fel petaen nhw erioed wedi gadael.
Yr Hyn i'w Ddisgwyl
Yr Hyn i’w Ddisgwyl
Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i’r gosodwaith fynd yn ei flaen, felly cofiwch edrych yn ôl cyn eich ymweliad.
Sut i gyrraedd yno
Y ffordd orau o ymweld â’r lleoliad yw mewn car. Mae parcio ar gael ar y safle, am ddim. Defnyddiwch y cyfeiriad isod, fodd bynnag rydym yn argymell dilyn arwyddion National Theatre Wales i gyrraedd yr union leoliad.
Cyfeiriad y gosodwaith:
Ogof Ffynnon Ddu,
Gwarchodfa Natur Genedlaethol (Cyfoeth Naturiol Cymru)
1-10 Stryd Powell, Abertawe SA9 1GQ
Rydym yn argymell defnyddio Penwyllt wrth chwilio gyda theclynnau llywio lloeren.
Dewch â’ch clustffonau a’ch ffôn clyfar/iPad gyda chi. Mae angen gwisgo clustffonau i brofi’r deunydd amlgyfrwng.
Bydd y gosodweithiau hyn yn rhad ac am ddim i’w profi i unrhyw un sy’n ymweld â Phenwyllt rhwng 30 Awst a 13 Hydref.
Nid oes angen i chi brynu tocyn, na’ch bod wedi gweld On Bear Ridge eisoes, oherwydd er bod y gosodwaith wedi’i gysylltu’n agos â’r sioe, nid yw’n rhan o’r ddrama.
Bydd pob un o’r gosodweithiau yn cynnwys trac amlgyfrwng byr y gallwch wrando arno drwy eich ffôn clyfar.
Mae dwy ffordd o gael mynediad i’r traciau amlgyfrwng ar gyfer y profiad:
Lawrlwythwch ffeil y daith a cherddwch y daith:
Cyn ymweld â’r gosodwaith, lawrlwythwch ffeil y daith gerdded o’n gwefan. Bydd y linc yn cael ei chyhoeddi yma cyn y dyddiad agor.
Mae wifi ar gael ar y safle, fodd bynnag rydym yn argymell lawrlwytho ymlaen llaw.
Lawrlwythwch drac y daith ymlaen llaw
Cyn ymweld â’r gosodwaith, lawrlwythwch y daith o’n gwefan. Bydd y linc yn cael ei chyhoeddi yma cyn y dyddiad agor.
Mae wifi ar gael ar y safle, fodd bynnag rydym yn argymell lawrlwytho ymlaen llaw.
Darllenwch isod i gael argymhellion hygyrch.
Ynglŷn â’r Safle
Mae hwn yn safle awyr agored, heb staff fel arfer, sy’n agored i’r elfennau.
Bydd archwilio’r gosodweithiau yn cymryd tua 30 munud
Gall y tir fod yn anwastad ac, yn dibynnu ar y tywydd, gallai fod yn llithrig gan arwain at diroedd heriol. Cadwch at y llwybr a argymhellir gennym, sydd wedi’i gyfeirio ac sydd â rhywfaint o raffau ar hyd y llawr i ddangos cyfeiriad y daith.
Sylwch fod y graean yn y maes parcio yn ddwfn ac yn eithaf miniog. Efallai na fydd ei groesi yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn neu bramiau gydag olwynion llai o faint.
Rydym yn argymell gwisgo esgidiau a dillad addas yn yr awyr agored, a sicrhau eich bod yn barod am dywydd garw. Dewch â dŵr yfed gyda chi.
Nid oes toiledau na chyfleusterau arlwyo ar y safle, ond mae Ystradgynlais yn daith 15 munud mewn car, gyda siopau a chyfleusterau ar gael.
Nid oes staff ar y safle ar mae croeso i chi fynd a dod yn ôl eich dymuniad. Fodd bynnag, er eich diogelwch chi, ein hargymhelliad cryf yw y dylid mynd rhwng 9am a 5pm.
Bydd y gosodiad ar gau rhwng 10-11 Medi at ddibenion ffilmio. Ni fydd y gosodweithiau ar gael ar hyn yn ystod y cyfnod hwn.
Hygyrchedd
Gellir gweld yr holl osodweithiau yn ffisegol o fan gwylio (os yw’r cymylau’n caniatáu). Mae’r man gwylio tua 100 metr o’r maes parcio ac mae modd mynd ato drwy gât ar hyd oleddf â ramp. Gellir gweld yr holl osodweithiau’n ddigidol drwy’r cyflwyniad Man Gwylio Statig.
Rydym yn argymell yn gryf bod y rheini sydd ag anghenion o ran mynediad yn ymweld â’r gosodwaith ar ddydd Sadwrn, rhwng 9 a 5pm. Bydd dau aelod o staff yn bresennol yn ystod y cyfnod hwn, a byddant yn sicrhau bod pob giât ar agor a gallant helpu gyda’ch profiad.
Os ydych yn bwriadu dod ar adeg arall, byddem yn eich cynghori i gysylltu â ni cyn eich ymweliad. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod eich profiad yn cael ei gefnogi’n briodol gan ein tîm, a bod y gatiau mochyn i fynd i’r safle ar agor ar gyfer unrhyw rai sy’n defnyddio cadair olwyn.
Gellir gweld a phrofi yr holl osodweithiau o bell neu’n agos. Os ydych chi’n dewis mynd i fyny’n agos, cadwch at y llwybrau gan fod y ddaear yn gallu bod yn ansefydlog.
Yn y man gwylio, bydd cyfarwyddiadau pellach yn cael eu darparu am brofiad y gosodwaith.
Yn ogystal â’r man gwylio a’r gosodweithiau ar ochr y bryn, mae yna osodwaith arall – Tŷ’r Orsaf – wrth y fynedfa i’r maes parcio. Bwriedir i Dŷ’r Orsaf gael ei weld drwy ei ffenestri. Mae ramp wrth ochr y lle sy’n caniatáu hyn ond efallai na fydd yn addas ar gyfer troi cadeiriau olwyn mwy o faint.
Cysylltwch â Rhian Lewis ar rhianlewis@nationaltheatrewales.org /029 2035 3070, a byddwn yn eich cynorthwyo i gynllunio eich ymweliad.