#NTW10

Mae NTW10 yn cynnwys rhaglen uchelgeisiol, ac amrywiaeth eang o wneuthurwyr theatr, ar draws cynyrchiadau nodedig ar raddfa fawr, taith o gwmpas coedwigoedd Cymru, profiad digidol gweledol ac adrodd straeon, comisiynau newydd difyr a llu o weithgareddau Datblygu Creadigol a Chydweithio.
Bydd 10fed flwyddyn NTW yn archwilio arwyr di-glod a straeon Cymreig cudd o’n gorffennol, ein presennol a’n darpar ddyfodol, gan wneud i theatr gyfrif ledled Cymru a thu hwnt.
Hail Cremation!
Yn sgil y sefyllfa barhaus o ran COVID-19/Coronafirws, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i ganslo pob perfformiad o Hail Cremation! Iechyd a llesiant ein cast, criw, staff a chynulleidfaoedd yw ein ffocws canolog ac yng ngoleuni’r canllawiau presennol ar iechyd y cyhoedd, teimlwn nad yw bellach yn bosibl bwrw ymlaen â’r perfformiadau.
Cymro angerddol
Anarchaidd caled
Llawfeddyg chwedlonol
Tad amlosgi modern
Ecsentrig Fictoraidd
Athrylith teilwraidd
Gweledigaethwr
Twyllwr …
Wedi’i anghofio bron yn llwyr.
Mae Hail Cremation! yn sioe gerdd am fywyd yr arloeswr amlosgi a’r gŵr radical, Dr William Price – Cymro cymhleth ac anhygoel.
Wedi’i greu gan Jon Tregenna, bydd yr asiad seicedelig hwn o gerddoriaeth fyw, dawns a fideo, yn mynd â chi ar siwrnai afreolus i ddathlu bywyd un o radicaliaid mwyaf gweledigaethol Cymru.
Dewch gyda ni ar y daith ryfedd a bendigedig hon i mewn i fywyd Dr William Price.
Wild Scenes at Cardiff
Mae Wild Scenes at Cardiff yn brosiect digidol ac rydym yn gweithio’n galed er mwyn iddo allu mynd yn ei flaen yn ôl y bwriad. Edrychwch ar y dudalen hon am ddiweddariadau pellach.
Ganol mis Mehefin 1919, cafodd Caerdydd ei thaflu i bedwar diwrnod a nos o anhrefn treisgar a adawodd dri o bobl yn farw, ac adeiladau wedi’u dryllio a’u llosgi yn yr hyn y cyfeiriodd y Western Mail ato fel ‘An amazing orgy of pistol firing, window smashing, and skirmishes between white men and coloured men’.
Wild Scenes at Cardiff yw’r hanes cignoeth sy’n cofnodi pob dydd ac awr o derfysgoedd hil Caerdydd, wedi’i ddwyn ynghyd o adroddiadau mewn papurau newydd lleol, gan ddilyn llanw a thrai deinamig y terfysg.
Wedi’i adrodd mor agos â phosibl i’r safleoedd gwreiddiol mewn dinaswedd sydd bellach wedi newid yn llwyr, mae Wild Scenes at Cardiff yn brofiad digidol atgofus – sy’n cyfuno testun llafar a delweddau – a fydd yn dangos y bobl a’r lleoedd oedd yn gysylltiedig â moment arswydus o anghytgord hiliol.
Go Tell the Bees
Mae Go Tell the Bees yn gynhyrchiad safle-benodol wedi’i gyd-greu, sy’n dathlu ein cysylltiad â’r byd yr ydym yn byw ynddo, a’r gymuned o’n cwmpas.
Drwy ddwyn ynghyd arbenigedd ein rhwydwaith cyfan, a gwybodaeth pobl leol, mae’r gymuned wedi dewis archwilio themâu’r Amgylchedd, Natur a’r Hinsawdd.
Dyma brosiect mwyaf NTW TEAM hyd yn hyn, wedi’i ddatblygu dros bedair blynedd gan ddefnyddio ein model unigryw o gydweithio â chymunedau yng Nghymru a thu hwnt.
Ymunwch â ni i ddathlu TEAM, a phopeth y mae wedi’i gyflawni yn ystod y degawd diwethaf.
Balloon Girl
Yn sgil y sefyllfa barhaus o ran COVID-19/Coronafirws, rydym wedi gohirio Balloon Girl hyd nes y clywir yn wahanol. Cofrestrwch i’n rhestr bostio am ddiweddariadau wrth i ni addasu a newid.
Ymunwch â ni am antur heb ei hail.
Mewn lleoliad eiconig yng nghanol Caerdydd, mae Balloon Girl yn gynhyrchiad ysblennydd, mawr, yn yr awyr agored a ysbrydolwyd gan stori wir ryfeddol.
Wedi’i osod yn erbyn cefnlen Arddangosfa Fawr Caerdydd yn 1896, mae menyw ifanc eofn yn herio’r drefn ac yn mentro i’r awyr.
Mae’r gorffennol a’r presennol yn cyd-fodoli mewn profiad chwareus llawn rhyfeddod a hud, delweddau rhyfeddol, cerddoriaeth fyw ysblennydd a chymeriadau arbennig.
Byddwch ddewr, edrychwch i fyny.
Frank
In light of the ongoing situation regarding COVID-19/Coronavirus, we have postponed FRANK’s visits to the forests of Wales until we know we can go ahead. Sign up to our mailing list for updates as we adjust and adapt.
Jones Collective a National Theatre Wales mewn cydweithrediad â Phlaique Fantastique
Crëwyd gan Buddug James Jones, Frank Thomas & Jesse Briton
Un dyn yn brwydro â’i natur a’i alar.
Mae Frank Thomas, bardd bywyd go iawn a gweithiwr ffatri gwrth-wenwyn nadroedd, ar goll yn yr anialwch. Pa ryddid newydd y gallai dychwelyd i fyd natur ei gynnig? A pha hen beryglon y gallai eu deffro …?
Mae Jones Collective a National Theatre Wales yn cydweithio gyda chwmni pensaernïaeth dros dro o Berlin, Plastique Fantastique i greu gofod perfformio byrhoedlog, hudolus yn ddwfn yng nghoedwigoedd Cymru, sy’n cynnwys barddoniaeth wreiddiol gan Frank Thomas a cherddoriaeth gan Sam Jones.
Datblygiad Creadigol
Mae comisiynau difyr ar gyfer y dyfodol yn cynnwys: Mouth, drama newydd syfrdanol gan Tom Wentworth sy’n rhoi llwyfan i ryw, anabledd a pherthynas deuluol, a Bethan Marlow yn archwilio yr hyn yw bod yn ifanc, yn ffyrnig ac yn fregus yn ei gwaith newydd Feral Monsters.
Bydd 2020 hefyd yn cynnwys;
Awdur Preswyl Cymru
BBC Cymru, BBC Writers Room a National Theatre Wales
Rhiannon Boyle
Bydd Rhiannon Boyle yn ymuno â National Theatre Wales am 6 mis, fel rhan o’i phenodiad am gyfnod o flwyddyn fel Awdur Preswyl Cymru.
Gan dreulio amser gyda BBC Cymru yn gyntaf, bydd yn ymuno â ni yn National Theatre Wales i archwilio’i chrefft ymhellach ac i fod yn rhan allweddol o’r tîm.
Bydd BBC Cymru yn cyhoeddi manylion am ei Awduron Preswyl y BBC 2020 yn fuan.
Cyfnodau Preswyl Ar Leoliad
Mae Cyfnodau Preswyl ar Leoliad wrth wraidd rhaglen Datblygiad Creadigol NTW. Bydd artistiaid – o ddylunwyr i feirdd i artistiaid-ymgyrchwyr – yn datblygu prosiectau perfformio cyfnod cynnar ar leoliad ledled Cymru, ochr yn ochr â Chynhyrchwyr sy’n dod i’r Amlwg NTW. O rythmau symudiadau protest Cymru i gynaliadwyedd llwybr arfordir Cymru yn y dyfodol, mae’r Cyfnodau Preswyl ar Leoliad yn archwilio cwestiynau brys am Gymru a’n byd cyfnewidiol mewn ffyrdd gweledigaethol.
Yr artistiaid blaen a ddewiswyd eleni yw: Yasmin Begum, Natasha Borton, Becky Davies, Gentle/Radical, Phil Jones, Emily Laurens, Alison Neighbour a Durre Shahwar.
Cydweithredu
Gan adeiladu ar ddigwyddiad cyntaf erioed NTW yn Wrecsam yn 2015, cam nesaf y dathliad ar gyfer y gymuned hon yw datblygu dull cydweithredol unigryw o ymdrin â thema digartrefedd a ddewiswyd gan gymuned Wrecsam a fydd yn cael ei lwyfannu yn 2021.
Bydd The Agency yn parhau yn 2020, gyda phobl ifanc 15-25 oed o ardaloedd Butetown, Glanyrafon a Grangetown yng Nghaerdydd â syniadau sy’n rhaid eu gwireddu.
Rydym yn darparu hyfforddiant, cefnogaeth, cyllid a chyngor gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, i ddatblygu angerdd yn brosiect sydd o fudd i gymunedau lleol. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o weithdy bocsio, i ŵyl cerddoriaeth.