Bydd tymor 2019 National Theatre Wales yn cael ei arwain gan bedwar cynhyrchiad newydd, gyda phob un yn cael ei wneud gydag artistiaid arobryn Cymreig a rhai sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.

Bydd y tymor yn cynnwys gwaith newydd gan Ed Thomas, un o ddramodwyr mwyaf blaenllaw Cymru, cywaith am y tro cyntaf gyda’r cwmni theatr arloesol Hijinx, cywaith rhyngwladol gyda Cymru yn Fenis a’r rhan nesaf o the Storm Cycle.

At hynny, bydd pedwar cynhyrchiad o dymor NHS70 NTW yn teithio i sawl theatr a lleoliad celfyddydau ar hyd a lled Cymru, a thu hwnt.

Font Resize
Contrast