O Ben’groes at Droed Amser
Ynglyn â'r Sioe
O Ben’groes at Droed Amser

O Ben’groes at Droed Amser
gan Karen Owen gyda Maggie Ogunbanwo
Dau ffrind, hanner awr o daith, llu o atgofion – a’r cyfan y tu ôl i fasgiau mewn cyfnod o bandemig byd-eang.
Ymunwch â’r awdur a’r bardd Karen Owen wrth iddi gamu ar fws a chychwyn ar daith o’i chartref, a’r stryd lle y’i magwyd, at y cloc yn sgwâr Bangor. Yn cadw cwmni i Karen ar ei phererindod bersonol, mae Maggie Ogunbanwo. Yn wreiddiol o Lagos, Nigeria, mae Maggie yn rhedeg ei busnes bwyd llwyddiannus o dafarn Y Red Lion ym Mhenygroes.
Dim ond ryw hanner awr yw’r daith fws ei hun, ond mae’n cwmpasu oes gyfan i Karen – o’i phlentyndod i goleg, heibio’r ysbyty a thafarndai – ac mae’r cyfan yn gwibio heibio wrth i Karen a Maggie drafod eu gwreiddiau a phrofiadau bywyd amrywiol… am gariad, am berthyn, am hiliaeth ac am faddau.