Refrain

Mae Refrain yn ddrama radio newydd, sy’n cael ei pherfformio bob dydd gan fam Sean. Bydd yn cael ei darlledu’n fyw o’i chartref yng Nghaerdydd i mewn i arddangosfa Sean yn y Biennale Fenis pwysig, ac ar BBC Radio 4 am 4pm, 17 Rhagfyr, 2019
About the show
Caerdydd / Fenis Mai 2019 - Mawrth 2021
Refrain
Cynhyrchiad newydd gan yr artist Sean Edwards, wedi’i gyd-gynhyrchu â National Theatre Wales a Tŷ Pawb, Wrecsam, ar gyfer Cymru yn Fenis/Wales in Venice 2019
Mai 2019 – Haf 2021
2pm, bob dydd, tan 24 Tachwedd 2019
Darlledir yn fyw yn Biennale Fenis, yr Eidal
4pm, 17 Rhagfyr, 2019
BBC Radio 4
29 Chwefror – 25 Ebrill 2020
Tŷ Pawb, Wrecsam
5 Rhagfyr 2020 – 28 Chwefror 2021
Bluecoat, Lerpwl
Haf 2021
Senedd, Caerdydd
Crëwyd gan Sean Edwards
Mae Refrain yn ddrama radio newydd, sy’n cael ei pherfformio bob dydd gan fam Sean. Cafodd ei ddarlledu yn fyw o’i chartref yng Nghaerdydd i mewn i arddangosfa Sean yn y Biennale Fenis pwysig, ac ar BBC Radio 4 am 4pm, 17 Rhagfyr, 2019.
Yn ymchwiliad barddonol am le, hanes cymdeithasol a dosbarth, mae’r ddrama’n gweu bywgraffiad Lily Edwards o dyfu i fyny mewn cartref plant Catholig yng Ngogledd Iwerddon a’i bywyd yng Nghymru ar ôl hynny, wedi’i gydblethu ag atgofion personol yr artist ei hun o’i blentyndod.
Roedd y gwaith newydd hwn yn elfen allweddol o gyflwyniad unigol Edwards ar gyfer Cymru yn Fenis 2019, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i arwain gan Tŷ Pawb, Wrecsam.
Cefnogir taith Refrain ac arddangosfa Cymru yn Fenis/Wales in Venice gan Art Fund.
Gyda diolch i Art Fund ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston