Ynglyn â'r Sioe
Ar-lein
Ritual

National Theatre Wales + Sherman Theatre mewn partneriaeth gyda BBC Cymru Wales + BBC Arts
DARLLENIADAU O DDRAMÂU
RITUAL gan Dirty Protest
I’w rhyddhau Dydd Gwener, Sadwrn a Sul, Gorffennaf 3, 4, 5 am 7yh
Soaring gan Hefin Robinson
Double Drop gan Lisa Jên Brown
Unbound gan Remy Beasley
Cyfarwyddo gan Catherine Paskell
Ni allwn greu na bod yn rhan o theatr fyw ar hyn o bryd. Mae ein defodau dyddiol prin bellach yn cynnwys ymarfer corff, golchi llestri, coginio a glanhau. Gyda hyn mewn golwg, fe gomisiynodd Dirty Protest dri dramodydd Cymreig sydd ar ddechrau eu gyrfa i greu Ritual, tair drama y gallwch wrando arnynt ar alw wrth fynd ati gyda’ch gorchwylion dyddiol.
Y Podlediau
Soaring
1999. Dau ddieithryn o rannau gwahanol o Gymru yn dod at ei gilydd drwy sgyrsiau ar dâp casét.
Double Drop
1995. Mae defodau a seremonïau yr Eisteddfod yn gwrthdaro gyda chymundeb yn yr uchelfannau mewn parti gwyllt.
Unbound
Diwedd y byd. Mae dwy fenyw yn claddu adar.
Mae’r tair drama hon yn mapio cyfnodau eithriadol; rhai yn y gorffennol a rhai sydd eto i ddod. Gyda’i gilydd mae’r tair drama yn adlewyrchu y newidiadau yn ein bywydau ac yn dathlu y cysylltiadau rydym yn eu gwneud gyda phobl eraill. Sut bynnag y byddwch yn penderfynu gwrando ar y dramâu hyn, maent yn addo mynd a chi i rywle anghyffredin yn ystod ein defodau dyddiol, cyffredin.
Bydd pob drama yn cael ei rhyddhau arwahan fel podlediad.