ROALD DAHL’S CITY OF THE UNEXPECTED
Ynglŷn â City of the Unexpected
Medi 2016 / Caerdydd
ROALD DAHL’S CITY OF THE UNEXPECTED
Ym mis Medi 2016, mynychodd dros 120,000 o bobl y digwyddiad diwylliannol mwyaf erioed yng Nghymru, a gynhaliwyd i ddathlu canmlwyddiant Roald Dahl. Gyda dros 7,000 o bobl yn perfformio, gwneud a gwirfoddoli, roedd Roald Dahl’s City of the Unexpected yn ddathliad hollol syfrdanol o’r dyn, ei gymeriadau a’i storïau.
Daeth prifddinas Cymru – lle y cafodd Roald Dahl ei eni ar 13 Medi 1906 – yn fan lle cafodd realiti ei droi ar ei ben, a lle y gwnaeth deddfau ffiseg, rhesymeg a’r rhagweladwy ildio i hud, hwyl, dyfais a’r swreal, fel pe bai Dahl ei hun wrth y llyw.
Fe wnaeth cyfranogwyr ac aelodau’r gynulleidfa ymgolli eu hunain ym mhopeth o ddigwyddiadau ar raddfa fawr i berfformiadau bach agos atoch chi – gyda’r cwbl wedi’i gynnal ledled strydoedd a mannau cyhoeddus Caerdydd, mewn siopau ac arcedau, mewn adeiladau eiconig a pharciau.
Tîm Creadigol
Nigel Jamieson
Cyfarwyddwr Creadigol
Dan Potra
Dylunydd Cynhyrchu
Jeanefer Jean-Charles
Cyfarwyddwr Symud Torfol
David Mahoney
Gorchwyliwr Cerddoriaeth
John Norton
Cyfarwyddwr Cyfranogiad
Mathilde López
Lina Johansson
Cyfarwyddwyr Cyswllt
Partick Dineen
Cyfansoddiad Gwreiddiol
Daf James
Cerddoriaeth a Geiriau Gwreiddiol
Mike Beer
Dylunydd Sain
Rob and Matt Vale, Illuminos
Dylunwyr Taflunio
Matt Wright
Dylunydd Digidol, The Bulletin
Ceri James
Dylunydd Golau