Sea Empress 25 - National Theatre Wales

Sea Empress 25

Sea Empress 25

Mae amser yn cael ei atalnodi gan eiliadau. Eiliadau sy’n newid pethau. Eiliadau sy’n gwneud inni stopio.

Roedd 8.07pm ar noson y 15fed o Chwefror, 1996, yn un o’r eiliadau hyn. 25 mlynedd yn ddiweddarach, mae arllwysiad olew y Sea Empress yn dal i fod yn ffres yng nghof Sir Benfro.

O syrffwyr i bysgotwyr, gweithwyr purfa olew i gapteiniaid llongau, cadwraethwyr i wleidyddion, dewch i glywed y straeon personol gan y bobl a oedd yno. Gyda delweddau breuddwydiol a cherddoriaeth atmosfferig gan John Lawrence o Gorky’s Zygotic Mynci, mae Sea Empress 25 yn adrodd hanes trychineb amgylcheddol y mae ei heffaith yn dal i gael ei theimlo heddiw.

Mae Sea Empress 25 yn ffilm gan Gavin Porter, a wnaed mewn cydweithrediad â Postcards and Podcasts.

Gyda diolch i Abigail Sidebotham, mae ei gwaith ar Archif Prosiect Sea Empress yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Casgliad y Werin ar-lein, os hoffech ddarganfod mwy o wybodaeth.

Gwylio Sea Empress 25

Credydau Sea Empress 25

  • Cyfarwyddwyd gan Gavin Porter
  • Camera Wayne Boucher, Rowan Chitania, Mei Lewis
  • Golygwyd gan Gavin Porter
  • Dylunio Di Ford
  • Ysgrifennwyd gan Naomi Chiffi
  • Adroddiant Phil Okwedy
  • Cerddoriaeth John Lawrence, Kosta T, Alejandro Remeseiro
  • Cyfweliadau Naomi Chiffi, Rachel John
  • Cynhyrchwyr Naomi Chiffi, Devinda De Silva
  • Gyda diolch i bobl Sir Benfro a TEAM NTW
  • Diolch yn arbennig i Nick Ainger, Abigail Beck, Captain Philip Bray, Tommy Bowler, Blaise Bullimore, Gareth Davies, Shirley Draper, Captain Hans Hansen, David Hawthorne, Rachel Holland, Phil Newman, Brigitte Osborne, Lucy Paice, David Perry, James Purchase, Abigail Sidebotham, Peter “Chippy” Thomas, Stuart Walder, The Castle Inn, Manorbier, a Postcards & Podcasts
Sioeau Cyfredol Arrow icon Buddsoddi ynom Ni Arrow icon
Font Resize
Contrast