Sgwrs Greadigol
Ynglun âr Dydd
Dydd Sul 3 Mawrth, Tŷ Portland, Caerdydd
Sgwrs Greadigol
BETH YW EIN BREUDDWYD AR GYFER Y THEATR YNG NGHYMRU DROS Y DENG MLYNEDD NESAF?
Fe’ch gwahoddir i gymryd rhan mewn sgwrs greadigol fawr ynghylch dyfodol y theatr yng Nghymru, a rhan National Theatre Wales yn llunio’r dyfodol hwnnw.
Ymunwch â ni ddydd Sul 3 Mawrth 2019
11am – 5pm
Tŷ Portland, 113 – 116 Stryd Bute, Caerdydd CF10 5EQ
Bydd hwn yn ddigwyddiad am ddim, gyda chroeso cynnes i bawb.
Bydd cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael, a bydd dehongli yn iaith arwyddion Prydain ar gael.
Nid oes unrhyw gost, ond mae’r capasiti yn gyfyngedig felly os nad ydych erbyn hyn yn gallu bod yn bresennol, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda.
Beth a allwn ei gyflawni gyda'n gilydd?
“Crëwyd NTW fel cwmni cymunedol radical ac mae’n werth sy’n dal i fod yn agos at ein calonnau. Felly, wrth i ail ddegawd y cwmni ddechrau, rwy’n falch eich gwahodd i rannu mewn diwrnod o sgwrs a gweithredu am ddyfodol y theatr yng Nghymru, ac uchelgeisiau ein cwmni theatr genedlaethol Saesneg ei iaith ar gyfer y dyfodol.
“Bron i ddegawd ers sefydlu NTW, mae’r byd yn teimlo fel lle gwahanol ac mae byd y celfyddydau yng Nghymru wedi’i drawsnewid. “Felly, pa fath o theatr genedlaethol sydd ei hangen ar y genedl nawr ac yn y blynyddoedd i ddod? Beth y mae artistiaid a chynulleidfaoedd yn ei ddymuno, a beth sydd arnynt ei angen? Beth a allwn ei gyflawni gyda’n gilydd?
“Os yw theatr yng Nghymru yn bwysig i chi, byddwn wrth fy modd pe byddech yn dod i’r digwyddiad. Beth bynnag yw eich profiad o’r theatr, beth bynnag yw eich chwaeth neu’ch cefndir rwy’n eich gwahodd i ymuno â ni.
“Bydd hwn yn ddigwyddiad wedi’i hwyluso. Bydd pob llais yn yr ystafell yr un mor werthfawr ac mae croeso i bawb.”
– Kully Thiarai, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales