STORM.3: Together and Alone
Ynglŷn â’r Sioe
Sioe newydd sbon sy’n asio testun o’r cyfnod ar ôl y rhyfel a thestun cyfoes, sain arloesol a chast ifanc o actorion lleol a pherfformwyr y gair llafar i archwilio syniadau am ryddid a dewis personol.
The problem with choosing is that it just goes on, moment by moment, for an entire lifetime, and happens without reason.
I guess I just still want to feel that I can always re-choose.
That no choice I make will be so bad that I can’t be saved from it,
from myself.
Beth yw canlyniadau ein dewisiadau i ni’n hunain ac i eraill? Wedi’i gwneud a’i pherfformio yng Nghasnewydd yn ystod yr wythnosau sy’n arwain at dynnu’n ôl arfaethedig y DU o’r UE, perfformir y sioe gan gast rhyfeddol o genhedlaeth milflwyddol llafar yr ardal, sydd wedi’i thangynrychioli.
Gan ymdrochi’r gynulleidfa yng nghanol y bwrlwm, bydd STORM.3: Together and Alone yn ymateb amserol, theatrig i’r cyfnodau stormus y cawn ein hunain ynddynt.
Wedi’i seilio ar Pour une morale de l’ambiguïté gan Simone de Beauvoir © Editions Gallimard.
Nodiadau gan yr Artist
“Rwy’n siŵr nad fi yw’r unig un yn pendroni sut i drafod pethau ar hyn o bryd; pan mae gwrthwynebiad yn cael ei wrthod fel rhywbeth ‘ffug’, a dadleuon a gwybodaeth yn cael eu disodli gan sloganau a gynlluniwyd i ‘ennill y naratif’ drwy gorddi emosiynau yn hytrach na syniadau – sloganau a allant olygu beth bynnag yr hoffwn iddynt ei olygu.
Mae cwestiynau am ba rai ohonom sydd wir yn ymhlith ‘y bobl’ sy’n cael eu trafod – neu’r hyn y byddwn i fel unigolyn am ‘gymryd rheolaeth yn ôl’, drosto, ac i bwy neu gan bwy – yn ymddangos yn anodd i’w gofyn.
Fel gwneuthurwr theatr dydw i ddim yn teimlo y gallaf gynnig atebion i unrhyw un o’r cwestiynau hynny, ac nid ydw i’n dymuno gwneud hynny chwaith; ond teimlaf yr angen i geisio agor mannau lle gallem edrych arnynt.
Dechreuodd The Storm Cycle fel ffordd o archwilio ffyrdd newydd i wneud yr union beth hwnnw, wrth i’r stormydd hyn ddechrau ymgynnull – mae STORM.3 wedi dod yn foment benodol a chanolog o bosibl ar y daith honno.
Mae’r penderfyniad i leisio geiriau o The Ethics of Ambiguity nid yn unig yn cydnabod perthnasedd parhaus a chyfredol syniadau Simone de Beauvoir, ond hefyd yn cofio’r digalondid a’r optimistiaeth a ddilynodd yr ail Ryfel Byd ac esgor ar yr Ewrop yr ydym bellach yn byw ynddi.
Roedd y dewis i weithio gyda pherfformwyr lleol a allai wneud i’r geiriau hyn siarad am eu hanghenion a’u hamser eu hunain, yn ymddangos yn anochel.
Nid yw hon yn theatr y gwn eisoes sut i’w hadeiladu; ond gobeithio y gellid cynnig rhywfaint o le i gwrdd a myfyrio, mewn ffyrdd nad ydynt efallai yn bosibl mewn mannau eraill…”
Mike Brookes
Crëwr STORM.3: Together and Alone
Tîm Creadigol
Mike Brookes
Crëwr
Mike Beer
Dylunydd Sain
Tic Ashfield
Cyfansoddwr
Julia Thomas
Cyfarwyddwr Cyswllt
Kyle Legall
Cyfarwyddwr Newydd
Cast
CONNOR ALLEN
JUSTIN CLIFFE
ABIGAIL FITZGERALD
ALEXA JONES YOUNG
ZARU JONSON
RUFUS MUFASA
POPPY RIVERS VINCENT
SEREN VICKERS
Rhaglen
Mae National Theatre Wales yn treialu gwneud rhaglenni ar gyfer ein perfformiadau ar gael i’w lawrlwytho am ddim fel PDF o’n gwefan. Bydd fersiynau print ar gael o hyd yn y lleoliad, ond drwy wneud hyn gobeithiwn y gallwn leihau’r nifer yr ydym yn eu hargraffu a’n heffaith ar yr amgylchedd yn unol â’n polisi Cynaliadwyedd.
I lawrlwytho’r rhaglen ar gyfer STORM.3 cliciwch yma.
I gael gwybod rhagor am bolisïau National Theatre Wales, yn cynnwys ein Polisi Castio, cliciwch yma.