The Stick Maker Tales
Ynglyn â'r Sioe
Teithio drwy Cymru Ebrill-Mai 2019
The Stick Maker Tales

Mae sioe un dyn Peter Cox yn deyrnged galonogol a thynder i gymunedau ffermio mynydd ledled Cymru; eu cryfder, eu dygnwch, eu parodrwydd i fod yn benderfynol, waeth cynddrwg bo’r amgylchiadau.
Efallai bod y bugail Geth Roberts (Llion Williams) mewn gwth o oedran, ond mae’n dal i fyw ar ei ben ei hun, yn uchel i fyny yng Nghwm Elan.
Yn storïwr cynhenid, mae wedi treulio ei oes gyfan yn gweithio ar ei fferm wyllt a gwyntog. Ond bellach mae Geth yn wynebu ei her fwyaf: mae ei olwg yn methu ac os na all weld, ni fydd yn gallu gweithio ar y fferm.
Comisiynwyd The Stick Maker Tales yn wreiddiol fel rhan o ŵyl NHS70 National Theatre Wales ym mis Gorffennaf 2018, a chafodd ei pherfformio yn Llandrindod a’r Trallwng, Powys.
Tîm Creadigol
Peter Cox
Awdur
Kully Thiarai
Cyfarwyddwr
Carl Davies
Dylunydd
Joe Fletcher
Dylunydd Golau
Ben Harrison
Dylunydd Sain
Julia Thomas
Cyfarwyddwr Cyswllt
Rhaglen
Mae National Theatre Wales yn treialu gwneud rhaglenni ar gyfer ein perfformiadau ar gael i’w lawrlwytho am ddim fel PDF o’n gwefan. Bydd fersiynau print ar gael o hyd yn y lleoliad, ond drwy wneud hyn gobeithiwn y gallwn leihau’r nifer yr ydym yn eu hargraffu a’n heffaith ar yr amgylchedd yn unol â’n polisi Cynaliadwyedd.
I lawrlwytho’r rhaglen ar gyfer The Stick Maker Tales cliciwch yma.