Cardiff 1919: Riots Redrawn

Cardiff 1919: Riots Redrawn yw’r hanes cignoeth sy’n cofnodi pob dydd ac awr o derfysgoedd hil Caerdydd, wedi’i ddwyn ynghyd o adroddiadau mewn papurau newydd lleol, gan ddilyn llanw a thrai deinamig y terfysg.
Ynglyn â'r Sioe
Ar-lein & Chaerdydd
Cardiff 1919: Riots Redrawn

National Theatre Wales
Cardiff 1919: Riots Redrawn
Ar-lein & Chaerdydd
Crëwyd gan Kyle Legall
Ar 11 Mehefin 1919, cafodd Caerdydd ei thaflu i bedwar diwrnod a nos o drais a adawodd dri o bobl yn farw ac adeiladau wedi’u dryllio a’u llosgi. Ar y pryd cyfeiriodd y Western Mail ato fel ‘An amazing orgy of pistol firing, window smashing, and skirmishes between white men and coloured men’.
Ond rydyn ni i gyd yn gwybod bod cymaint o wahanol straeon y tu ôl i’r hyn sy’n cael ei adrodd yn y newyddion.
Mae Cardiff 1919: Riots Redrawn yn nofel graffig ddigidol gan yr artist o Butetown, Kyle Legall. Mae’n brofiad digidol atgofus sy’n cyfuno testun llafar a darlunio i greu’r awyrgylch, y bobl a’r lleoedd oedd yn rhan o foment ddychrynllyd o wrthdaro hiliol a thrais ar strydoedd Caerdydd. Wedi’i lunio o adroddiadau mewn papurau newydd lleol, mae darluniau Kyle hefyd yn tynnu ar hanesion a straeon a basiwyd i lawr drwy’r cenedlaethau o foment o drawma a adawodd farc annileadwy ar gymuned Butetown. Ynghyd â seinlun gan Chris Jenkins a throslais gan Ali Goolyad a Mike Pearson, mae’r cyfrif clir, gweledol dydd wrth ddydd, awr wrth awr hwn yn dilyn llanw a thrai y terfysgoedd, gan eich trochi yn y gwallgofrwydd dwys a ddigwyddodd ar strydoedd ein prifddinas 101 o flynyddoedd yn ôl.
Dyma brofiad digidol y gallwch ei archwilio o’ch cartref, ond y gellir ei brofi hefyd fel taith gerdded ffisegol (wedi’i hymbellhau’n gymdeithasol) drwy’r mannau lle y digwyddodd bethau. Drwy gerdded ar y strydoedd lle mae digwyddiadau’r gorffennol wedi ymwreiddio yn adeiladwaith y palmant, bydd olrhain cam wrth gam mewn profiad ymdrochol, atgofus yn dod â ni’n agosach o lawer at y digwyddiadau na thrwy ddarllen hanesion mewn archifau hanesyddol neu wylio’r hyn sy’n digwydd mewn adroddiadau newyddion ar y teledu.
Ewch i cardiff1919.wales i archwilio a chysylltu â hanes anghofiedig ein strydoedd a’n cymunedau ein hunain yng Nghaerdydd.
Mae Cardiff 1919 yn cynnwys delweddau a disgrifiadau o drais eithafol ac mae’n cynnwys iaith, gan gynnwys sarhad hiliol, wedi’i thynnu o ddogfennau a disgrifiadau hanesyddol a allai fod yn dramgwyddus i gynulleidfa fodern.
Windrush Caribbean Film Festival
Rydyn ni wrth ein bodd bod Cardiff 1919: Riots Redrawn wedi’i dewis ar gyfer y Windrush Caribbean Film Festival gyntaf.
Cewch wybod rhagor yn windrushfilmfestival.com
Kyle Legall
“Roedd terfysgoedd hil Caerdydd ym 1919 yn gyfnod ffrwydrol i bobl Caerdydd, ond yn fwy arbennig, i’r teuluoedd oedd yn byw yn Tiger Bay. Profiad byw o fewn fy nheulu yw’r terfysgoedd hil ac mae’n rhan o’n llên gwerin.
Ysbrydolwyd Cardiff 1919: Riots Re-drawn gan fy amser i fel cyfarwyddwr sy’n dod i’r amlwg gyda NTW. Fe wnes i arsylwi Mike Pearson a Mike Brooks yn cyfarwyddo Storm 2, yr ymchwiliwyd i’w sgript o adroddiadau papur newydd o adeg y terfysgoedd. Wrth wrando ar yr actorion yn cyflwyno’r ddrama, dechreuais i ddwdlan ychydig o ddarluniau ar fy nghopi o’r sgript o’r digwyddiadau a’r wynebau, oherwydd roedd y ddeialog yn paentio cymaint o fanylion yn fy nychymyg.
Cefais fy annog gan gyfarwyddwyr a chynhyrchwyr NTW i ehangu ar fy ngwaith celf, i fynd ag ef i lefel arall.
Pan rwy’n meddwl am y terfysgoedd, fy nghymuned a’m teulu 100 mlynedd yn ôl, yn gorfod amddiffyn eu hawl i fod yng Nghaerdydd, cael teuluoedd a gweithio am fywoliaeth, mae’n fy llenwi â diflastod ac yna balchder. Y ffaith, ar ôl ymladd yn y rhyfel, fod pobl Tiger Bay wedi gorfod ymladd eto am eu bywydau, eu teuluoedd a’u cartrefi. Roedd yn rhaid iddyn nhw ymladd yn erbyn hiliaeth.
Cael eu magu yn Tiger Bay, gan ddeall ein treftadaeth a’n hunaniaeth unigryw. Pobl ddu a gwyn yn byw mewn heddwch, y lle hwn yw sut bydd y dyfodol yn edrych. Dyma beth oedd trigolion Butetown yn brwydro i’w amddiffyn a dyma beth oedd y terfysgwyr hiliol am ei ddinistrio. Daeth Tiger Bay yn rhan o wneuthuriad a ffabrig Caerdydd yn y pen draw.”
Kyle Legall oedd Artist Preswyl Cyntaf NTW yn 2015. Roedd yn Gyfarwyddwr sy’n dod i’r Amlwg ar Storm 2 a 3 (2018/2019) ac yn brif artist ar Wild Scenes at Cardiff (2019). Mae wedi bod yn aelod o Banel TEAM er 2018 ac mae wedi gweithio gyda llawer o wahanol gymunedau, artistiaid, perfformwyr ac ymarferwyr.
Mae Kyle yn artist y mae ei waith yn rhychwantu sawl genre, o graffiti, animeiddio, gwneud ffilmiau, theatr, a dylunio, i wneud ei ddillad graffiti ei hun. Mae wedi creu pedair ffilm fer 2D wedi eu hanimeiddio ar gyfer Channel 4 ac S4C. Yn 2017 gwnaeth Kyle ysgrifennu, dylunio a chyfarwyddo RATS (Rose Against The System) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mike Pearson
Mae Mike Pearson wedi helpu i ddyfeisio a chyfarwyddo chwe chynhyrchiad gyda NTW: The Persians (2010), Coriolan/us (2012), Iliad (2015), STORM.1: Nothing Remains the Same, STORM 2: Things Come Apart (2018), Wild Scenes at Cardiff (2019).
Mae Mike yn Athro Emeritws mewn Astudiaethau Perfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerwysg. Wedi’i hyfforddi’n wreiddiol fel archeolegydd, bu’n wneuthurwr theatr ac yn berfformiwr proffesiynol am 50 o flynyddoedd, gan weithio’n rhyngwladol, yn bennaf ym meysydd theatr gorfforol a pherfformiadau dyfeisiedig a safle-benodol. Mae’n parhau i greu perfformiadau fel artist unigol a chyda grŵp o berfformwyr hŷn Good News From The Future.
Beth I’w Ddisgwyl
Ar-lein
Dyma brofiad digidol y gallwch ei archwilio o’ch cartref, ond y gellir ei brofi hefyd fel taith gerdded ffisegol drwy’r mannau lle y digwyddodd bethau. Mae ar gael i’w gyrchu a’i brofi yn Cardiff1919.Wales
Ar leoliad
Gellir profi Cardiff 1919 fel taith gerdded ffisegol drwy’r mannau lle y digwyddodd bethau. Mae cyflwyniad y nofel ddigidol ar Cardiff1919.Wales yn darlunio’r digwyddiadau mewn trefn gronolegol. Fel y cyfryw, wrth brofi hyn ar leoliad, cynhelir rhai digwyddiadau ar yr un safle, ond ar adegau gwahanol. Os yn dilyn y llwybr mewn trefn, byddwch yn dychwelyd i rai lleoliadau nifer o weithiau.
Fel arall, os byddai’n well gennych lwybr byrrach sy’n ymweld â phob lleoliad unwaith yn unig, byddem yn argymell y canlynol:
- Gwrandewch ar 1 yn y man wrth gyffordd Stryd y Tolldy/Stryd y Gamlas
- Gwrandewch ar 2 yn y man y tu allan i’r Llyfrgell Ganolog
- Gwrandewch ar 3 yn y man ger Byddin yr Iachawdwriaeth ger Sgwâr Callaghan
- Gwrandewch ar 4 y 5 yn yr un lle â 3
- Gwrandewch ar 6 yn y man ger yr arosfannau bysiau ar gyfer Sgwâr Callaghan
- Gwrandewch ar 7 yn y man ger The Golden Cross
- Gwrandewch ar 8 yn yr un lle â 7
- Gwrandewch ar 9 yn y man ger The Golden Cross / John Lewis
- Gwrandewch ar 10 yn y man ger yr Arcêd Brenhinol