Cyfleoedd

Mae TEAM National Theatre Wales yn llunio pecyn addysgol i gefnogi testun Safon Uwch CBAC “The Radicalization of Bradley Manning” gan Tim Price.
Mae’r testun hwn yn gofnod ffuglennol o flynyddoedd cynnar bywyd Chelsea Manning.
Mae TEAM NTW yn gweithio gydag Ymgynghorydd Creadigol Traws ar y prosiect hwn, ac yn sicrhau bod y pecyn addysgol yn cynnwys trafodaeth fawr am hawliau traws a sut i fynd ati i lwyfannu straeon traws.
Mae TEAM NTW yn chwilio am DDAU actor traws neu anneuaidd i ddarllen a dehongli rhannau o’r testun, a chyflwyno eu meddyliau i’r camera. Rydym yn annog cyfranogwyr o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol yn benodol. Bydd yr actorion yn cael eu cefnogi gan yr Ymgynghorydd Traws, ac yn cael ffi o £100 am eu hamser, i gynnwys cynllunio a’r cyfweliad ei hun.
Mae NTW yn cydnabod y cynildeb yn y sgyrsiau o gwmpas y testun hwn, ac maent am dalu gwrogaeth i fywyd Chelsea trwy i’r testun hwn gael ei ddefnyddio fel offeryn addysgol mewn ysgolion a cholegau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch trwy e-bostio team@nationaltheatrewales.org a gadewch i ni wybod pam yr hoffech chi gymryd rhan.