Cyfleoedd

Rydyn ni bob amser yn chwilio am eneidiau angerddol, dyfal i ddod i weithio gyda ni.
Ydych chi’n rhywun sy’n …
- Credu mewn adrodd straeon fel modd pwerus i’n cysylltu a sicrhau newid?
- Dymuno i’w waith ymwneud â chreu cyfleoedd i bawb yng Nghymru gymryd rhan, a gwneud a phrofi theatr a chreadigrwydd?
- Gwerthfawrogi cysylltiad wrth wraidd yr hyn rydych chi’n ei wneud – ac yn dod ag egni, dilysrwydd, dewrder a chreadigrwydd i’ch gwaith?
Os yw hynny’n eich cyffroi, edrychwch ar rai o’r cyfleoedd isod. Os ydyn nhw at eich dant, cysylltwch â ni.
Dal yn ansicr? Cewch wybod rhagor am sut beth yw gweithio i NTW yn y blog hwn gan ein Cyfarwyddwr Artistig Lorne Campbell.
Mae arnom angen dîm staff sy’n cynrychioli’r sbectrwm cyfan o brofiad byw yng Nghymru ac yn annog ceisiadau o bob cymuned, ffydd a chefndir. “We aim for a working culture that supports the needs and lives of our team as well as the mission and work of our company” – Lorne. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy’n profi hiliaeth, neu sy’n nodi eu bod yn Fyddar neu’n Anabl. Rydym yn cydnabod y model cymdeithasol o anabledd ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’n cyflogeion i gael gwared ar rwystrau i gynhwysiant.
Yn y bôn, pwy bynnag ydych chi, rydyn ni am glywed gennych chi. Os ydych chi’n dal i fod yn ansicr ynghylch gwneud cais, estynnwch allan i gael sgwrs – byddwn ni’n dweud popeth y gallwn ni wrthoch chi i’ch helpu i benderfynu.
Rydym yn chwilio am…
Cyfarwyddwr Cynulleidfaoedd
Rydym yn chwilio am weithiwr cyfathrebu proffesiynol profiadol ac arloesol i ddod yn Gyfarwyddwr Cynulleidfaoedd i ni. Darganfod mwy.
Dyddiad cau: 5pm ar dydd Llun 22 Awst
Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata
Rydym yn chwilio am rywun chwilfrydig, dyfeisgar a llawn syniadau i fod yn Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu i ni. Darganfod mwy.
Dyddiad cau: 5pm ar ddydd Llun 22 Awst
Tîm creadigol cynhyrchiad NTW TEAM Wrecsam
Rydym yn chwilio am aelodau tîm cryf i helpu i wireddu ein cynhyrchiad newydd yn Wrecsam.
Dyddiad cau: 12pm ddydd Iau 1 Medi
Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os hoffech sgwrs i drafod a yw’r swydd hon yn addas i chi, cysylltwch â Hannah yn work@nationaltheatrewales.org.