
Almir Koldzic
Treuliodd Almir Koldzic amser ar secondiad gyda NTW yn 2018 fel rhan o'i Gymrodoriaeth Clore.
Mae Almir yn Gyd-sylfaenydd a Chyd-Gyfarwyddwr Counterpoints Arts – sefydliad cenedlaethol
blaenllaw ym maes y celfyddydau, ymfudo a chyfiawnder cymdeithasol. Mae ei brofiadau'n cynnwys
arwain ar ddatblygu strategaeth a hunaniaeth ar gyfer Wythnos Ffoaduriaid y DU; datblygu
Platforma – rhwydwaith cenedlaethol y celfyddydau a ffoaduriaid; adeiladu cyweithiau ystyrlon a
hirdymor â sefydliadau celfyddydau, diwylliannol ac eirioli blaenllaw, rhyng-genedlaethol; a churadu
a chynhyrchu ystod eang o ddigwyddiadau a chomisiynau yn ymwneud â dadleoli.
Darllen Mwy
Dangos Llai