
Bethan Cousins
Mae Bethan yn Ddirprwy Reolwr Cronfeydd gyda Finance Wales Investments lle mae wedi ymgymryd â nifer o rolau ers hyfforddi yn Gyfrifydd Siartredig gyda PricewaterhouseCoopers yng Nghaerdydd.
Mae Bethan wedi arwain nifer o fuddsoddiadau i mewn i fusnesau cyfryngau yng Nghymru yn cynnwys cwmnïau cynhyrchu mewn teledu, animeiddio, CC ac asiantaethau digidol. Fel y Rheolwr Cronfa gyda Chronfa ED Creadigol Cymru, gweithiodd gyda phwyllgor buddsoddi annibynnol arbenigol a buddsoddodd dros £12m yn uniongyrchol mewn 43 o gyd-gynyrchiadau gan greu budd economaidd i sector cyfryngau Cymru. Mae Bethan yn dod â gwybodaeth ardderchog i’r bwrdd o’r heriau ynghlwm wrth dyfu busnesau ar draws amrywiaeth eang o sectorau a graddfeydd.
Mae Bethan yn byw ym Mhenarth gyda’i theulu ifanc, mae’n hoff o deithio a chanu, ac mae’n frwd dros y celfyddydau perfformio a blaengaredd yn y traddodiad Cymreig o adrodd straeon.
Darllen Mwy
Dangos Llai