Bethan Jones

Ar ôl hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gweithiodd Bethan Jones fel actor yn y theatr ac ar deledu, gan droi at gyfarwyddo theatr yn y pen draw.

Fel Cyfarwyddwr Artistig cyntaf Dalier Sylw, a ddatblygodd yn Script Cymru, datblygodd a chyfarwyddodd nifer o gynyrchiadau a chydweithiodd â Theatr Clwyd, Paines Plough, Traverse Theatre a Soho Theatre. Arweiniodd cyfarwyddo theatr i gyfarwyddo drama deledu ar gyfer BBC Cymru ac S4C, ac ymunodd Bethan â BBC Cymru yn 2002 fel Cynhyrchydd yn gyfrifol am allbwn drama lleol. O 2005, fel Cynhyrchydd Gweithredol yn Adran Ddrama BBC Cymru, bu Bethan yn gweithio ar nifer o ddramâu teledu arobryn, gan gynnwys Merlin, Sherlock, A Poet in New York, The Long Walk to Finchley, Room at The Top, Hamlet, War and Peace ac yn fwyaf diweddar Aberfan: The Green Hollow.

Gadawodd Bethan BBC Cymru ym mis Mai 2017 ac ymunodd â CUBA Pictures, lle mae hi’n datblygu drama rwydwaith newydd.

Darllen Mwy

Dangos Llai

  • Almir Koldzic
  • Shanaz Gulzar
  • Mike Brookes
Font Resize
Contrast