
Christian Patterson
Cast - Peggy's Song
Wedi’i eni a’i fagu yn Abertawe, hyfforddodd Christian yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac mae’n actor, yn awdur ac yn gyfarwyddwr.
Mae ei gredydau actio theatr diweddar yn cynnwys The Way of The World (Donmar Warehouse), My Country (National Theatre, Llundain), St Nicholas, Blackbird a Blasted.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae Christian wedi cael ei enwebu am nifer o Wobrau Theatr Cymru ac yn 2016 enillodd yr Actor Gorau am ei rôl yn Blasted.
Yn 2014, roedd yn y ffilm gan Calamity Films a enillodd sawl Bafta, sef Pride. Mae ei gredydau ffilm eraill yn cynnwys Malice on Wonderland ac I Know You Know.
Mae Christian yn wyneb adnabyddadwy ar lwyfannau Cymru, yn enwedig yn Theatr Clwyd lle mae’n falch o fod yn Actor Cyswllt gyda’r cwmni o Ogledd Cymru. Mae ei gredydau theatr yno yn cynnwys The Rise and Fall of Little Voice, Insignificance, All My Sons, Aristocrats, Rape of the Fair Country, Glengarry Glen Ross ac As You Like It.
Mae ei waith teledu yn cynnwys Handstand, My Country, Ellen, Holby City, Doctors, Miss Selfridge a Krod Mandoon.
Darllen Mwy
Dangos Llai