Claire Turner

Cynhyrchydd Caeredin

Ers dechrau wrth wneud coffi mewn caffi theatr, rwyf wedi gweithio i gwmnïau fel Headlong, Fuel, Curious Directive a Mimbre i ddod â chymysgedd eclectig o waith i gynulleidfaoedd yn y DU ac yn rhyngwladol.  Fel cynhyrchydd annibynnol, rwyf wedi cyflwyno gwaith yn Soho Theatre, Young Vic, Arts Admin a Gŵyl Latitude.

Cyn ymuno â NTW, roeddwn i’n rhan o’r tîm cynhyrchu yn y Young Vic yn Llundain, lle’r oeddwn yn gweithio ar draws cynyrchiadau yn yr adeilad, ar daith, yn y West End, ar Broadway a chyda NT Live.  Roeddwn hefyd yn Gynhyrchydd Cynorthwyol y cynhyrchiad arobryn A View from the Bridge a gyfarwyddwyd gan Ivo van Hove.

Ymunais â NTW ym mis Mai 2016 a threulio’r misoedd cyntaf yn teithio trwy lawer o Gymru tra’n cynhyrchu We’re Here Because We’re Here  gan Jeremy Deller yng Nghymru. Ers hynny, rwyf wedi gweithio ar draws nifer o gynyrchiadau NTW, gan gynnwys Lifted by Beauty a wnaed gan Mark Storor gyda phobl y Rhyl.

Ar ôl haf yn gweithio fel Cyswllt Artistiaid ar gyfer gwyliau gyda SC Productions a Bestival, rwy’n falch o fod yn ôl yn gweithio ar dymor 2018 NTW.

Darllen Mwy

Dangos Llai

  • Megan Price
    RHEOLWR MARCHNATA DROS DRO
  • Nia Llewelyn Jones
    Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus Dros Dro
  • Marc Rees
    Cydymaith Creadigol
  • Julia Thomas
    Cyfarwyddwr Cyswllt
  • Matthew Fisher
    Cydlynydd Cyllid
  • Kathryn Parker
    PRENTIS DIGWYDDIADAU BYW
  • Esther Morris
    PENNAETH DATBLYGU (RHODDION MAWR A CHORFFORAETHOL)
  • Sophie Lewis
    CYNORTHWYYDD GWEINYDDOL TEAM
  • Gavin Porter
    CYDLYNYDDTHE AGENCY
  • Michelle Carwardine-Palmer
    RHEOLWR-GYFARWYDDWR
Font Resize
Contrast