Gweithio Gyda Ni

David Evans
PENNAETH CYNHYRCHU
Ymunais â NTW yn 2011, a chyn hynny bûm yn gweithio’n helaeth yn y DU a thramor. Cyd-sefydlais Theatricalsolutions, cwmni cynhyrchu ac ymgynghori a oedd yn gweithio gyda chwmnïau yn y DU, y Dwyrain Canol ac UDA ac ers 1999, rwyf hefyd wedi gweithio gyda Matthew Bourne, yn rheoli cynyrchiadau fel Swan Lake, The Car Man, Edward Scissorhands, a Play Without Words. Fi oedd y Rheolwr Cynhyrchu ar gyfer The Dance Consortium.
Yn dilyn ei agoriad yn Sydney, roeddwn yn rhan allweddol o ddod â Priscilla Queen of the Desert i’r West End yn ogystal â pharatoi ar gyfer ei pherfformiadau cyntaf yng Ngogledd America a Llychlyn.
Rwy’n Ymddiriedolwr Cymdeithas Technegwyr Theatr Prydain (ABTT) ac yn gweithio’n agos gyda’r Gynghrair Cynaliadwyedd mewn Cynhyrchu (SiPA) a’r Fforwm Rheolwyr Cynhyrchu (PMF). Rwyf hefyd yn aelod o’r bwrdd ac yn gynghorydd i Ŵyl Theatr Lagos yn Nigeria. Yn 2015, cefais fy ngwneud yn gymrawd anrhydeddus o Goleg Rose Bruford.
Darllen Mwy
Dangos Llai