
Elan Elidyr
Dawnsiwr - Hail Cremation!
Mae Elan yn dod yn wreiddiol o Dalybont, ger Aberystwyth. Cwblhaodd flwyddyn o astudio yn Rubicon Dance yng Nghaerdydd, cyn astudio am dair blynedd yn Iwanson International School of Contemporary Dance. Ers graddio yn 2018, mae Elan wedi creu ei phrosiectau ei hun, gan weithio gyda cherddoriaeth fyw a dawns gyfoes, ac mae hefyd wedi perfformio gyda chwmni dawns Comp:Art mewn perfformiad safle benodol ledled Ewrop.
Yn Rhagfyr 2019, roedd hi’n rhan o Y Trol Nath Ddwyn y Dolig (Theatr Clwyd a Pontio), sioe Nadolig i blant yn cyfuno actio, dawnsio a chanu.
Mae Elan yn edrych ymlaen at ddechrau ymarfer Hail Cremation!
Darllen Mwy
Dangos Llai