Gweithio Gyda Ni

Esther Morris
PENNAETH DATBLYGU
Helo! Esther ydw i a fi yw’r Pennaeth Datblygu.
Fe wnes i raddio o Brifysgol Aberystwyth yn 2005 gyda BA mewn Drama ac Astudiaethau Theatr.
Yn y gorffennol rwyf wedi bod yn Athrawes Drama mewn ysgol uwchradd, wedi gweithio ym myd busnes ac i’r Gwasanaeth Sifil. Yn 2013 symudais i Gaerdydd a gweithio i Cardiff Theatrical Services lle’r oeddwn yn gyfrifol am waith gweinyddol, ac Opera Cenedlaethol Cymru fel Rheolwr y Corws Cymunedol yn ystod blwyddyn dathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu. Yn fwyaf diweddar roeddwn yn Reolwr Busnes ar gyfer Ffotogallery.
Ymunais â NTW ym mis Ionawr 2019 a rwy’n falch iawn o gael bod yn rhan o’r tîm. Rwy’n dwlu bod NTW yn gwthio’r ffiniau ac yn herio canfyddiadau.
Rwy’n dwlu ar y Theatr. Rwyf o’r farn bod diwylliant yn sylfaen ar gyfer ein bodolaeth ac y dylai fod yn hygyrch i bawb. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn bod fy ngwaith yn cefnogi rhywbeth yr wyf yn ei werthfawrogi a’i fwynhau.
Rwyf wrth fy modd yn canu ac yng nghôr merched ‘Sororitas’ yng Nghaerdydd. Mae bod yn aelod o gôr yn rhoi hwyl a chyfeillgarwch i mi yn ogystal â rhoi hwb i’m hysbryd o gael canu a pherfformio gyda phobl eraill.
Darllen Mwy
Dangos Llai