
Iestyn Arwel
Dawnsiwr - Hail Cremation!
Actor Cymraeg ei iaith o gefn gwlad gorllewin Cymru yw Iestyn.
Fe’i hyfforddwyd yn Drama Centre London, ac mae wedi ymddangos yn, ymhlith eraill, ffilm fer Rungano Nyoni a enillodd wobr Bafta Cymru, The List; Burn, Burn, Burn (Netflix); London Irish (Channel 4); Rownd a Rownd; Merched Parchus; 35 Awr (S4C). Mae ei waith theatr yn cynnwys cynyrchiadau gyda The Arcola; The Old Vic Tunnels; The Octagon, Bolton; Theatr Clwyd a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Ei hoff foment yn broffesiynol hyd yn hyn yw cael bod yn eilydd i Michael Palin ar gyfer Monty Python Live yn yr 02.
Darllen Mwy
Dangos Llai