Gweithio Gyda Ni

Lorne Campbell
CYFARWYDDWR ARTISTIG
Lorne Campbell yw Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales. Dechreuodd Lorne ei yrfa yn y Traverse Theatre yng Nghaeredin. Cyn ymuno â NTW roedd yn Gyfarwyddwr Artistig ar gyfer Northern Stage. Ymhlith uchafbwyntiau ei amser yn Northern Stage mae The Bloody Great Border Ballad (2015) Get Carter (2016) a The Last Ship (2018), a gwaith arddangos arobryn Northern Stage yng nghwyl Fringe Caeredin.
Cyn Northern Stage, bu Lorne yn gweithio fel cyfarwyddwr theatr ar ei liwt ei hun yn creu cynyrchiadau ar gyfer Liverpool Everyman a Playhouse Theatre, Birmingham Rep, Theatre Royal Bath, Traverse Theatre, The Almeida a Hull Truck. Roedd yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn y Traverse Theatre rhwng 2004 a 2008. Gweithiodd fel Cyfarwyddwr Cwrs yn y Ganolfan Ddrama ac fel Cymrawd Creadigol yr RSC rhwng 2011 a 2013 ac fel Cyfarwyddwr Cyd-Artistig sefydlu Greyscale rhwng 2009 a 2013.
Darllen Mwy
Dangos Llai