Menna Elfyn

Bydd y ddrama yn herio cwestiwn dirfodol hunaniaeth, a’i natur newidiol ar gyfer menywod a dynion fel ei gilydd. Bydd hefyd yn herio ‘normaleiddio anfadwaith’ gydag arferion cymdeithasol, gwleidyddol a rhywiol yn cael eu hystyried ochr yn ochr â thri chymeriad rhyfeddol.”
Menna Elfyn

Mae Menna Elfyn yn fardd ac yn ddramodydd arobryn. Mae hi wedi cyhoeddi 14 o gasgliadau barddoniaeth, nofelau plant, libretti ar gyfer cyfansoddwyr y DU a UDA, yn ogystal â dramâu ar gyfer teledu a radio. Dewiswyd Murmur (Bloodaxe Books, 2012) yn Gyfieithiad Cymeradwy’r Poetry Book Society. Mae ei gwaith wedi’i gyfieithu i 18 o ieithoedd a chyhoeddwyd ei chasgliad diweddaraf Bondo (Bloodaxe Books) yn 2017.

Cyhoeddwyd ei bywgraffiad o’r bardd Cymraeg Eluned Phillips gan Gomer a’r cyfieithiad Saesneg Absolute Optimist (Honno) yn 2018. Cyhoeddwyd Cennad (Barddas), cofiant llenyddol, ym mis Mawrth 2018.

Mae’n Athro Barddoniaeth, yn Llywydd PEN Cymru ac wedi bod yn golofnydd gyda phapur cenedlaethol Cymru ers 1994.

Darllen Mwy

Dangos Llai

  • Tina Pasotra
  • Angharad Lee
Font Resize
Contrast