
RUFUS MUFASA
Cast - STORM.3
Mae’r ymgyrchydd llenyddol Rufus Mufasa yn artist cyfranogol arloesol sy’n eiriol addysg hip hop a datblygu barddoniaeth sy’n hygyrch i bawb. Yn awdur geiriau, rapiwr a bardd celfyddyd perfformio, gydag MA mewn sgriptio, yn ddiweddar lansiodd Rufus albwm unigol, Fur Coats From The Lion’s Den, a nodwyd yn uchafbwynt diwylliannol yn 2017 gan Wales Arts Review.
Mae Rufus yn Hay Writer at Work, yn cefnogi nifer o brosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau, yn mentora dynion yng ngharchar y Parc ac yn cynllunio ei phedwerydd ymweliad â’r Ffindir, lle roedd yn brif berfformiwr yng Ngŵyl Lenyddiaeth Helsinki yn ddiweddar. Hi oedd yr artist cyntaf o Gymru i berfformio yng ngŵyl Ruisrock, mae’n mentora beirdd ‘beat’ o’r Ffindir, ac yn awr mae’n ysgrifennu mewn tair iaith o ganlyniad.
Darllen Mwy
Dangos Llai