
SEREN VICKERS
Cast - STORM.3
Wedi graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Seren yn hapus ac yn falch o fod wedi gweithio’n rheolaidd yng Nghymru, gyda chwmnïau theatr o safon uchel fel y Sherman, Cwmni Pluen a goodcopbadcop.
Yng Nŵyl y Llais Caerdydd 2018, chwaraeodd Medea yn Highway One, cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru/August012. Mae ei chredydau eraill yn cynnwys Andrea yn Dark Vanilla Jungle, Company of Sirens; Two yn hang, Run Amok; a Regan yn King Lear, Shifting Sands. Yr haf diwethaf, hi oedd Lady Macbeth yn Macbeth Shakespeare yn Theatr y Barbican, Plymouth. Ei phrosiect diweddaraf oedd chwarae ei thrwmped fel Aneurin Bevan.
Darllen Mwy
Dangos Llai