Stephen Black
Band - Hail Cremation!
Mae Stephen, a adnabyddir hefyd fel Sweet Baboo, yn artist llwyddiannus yn ei rinwedd ei hun, yn ogystal â gweithio fel cerddor sesiwn a theithio’r byd gyda Gruff Rhys a Cate le Bon.
Mae ganddo chwe albwm unigol, ac enwebwyd tri ohonynt ar gyfer y Wobr Cerddoriaeth Gymreig. Mae ei waith diweddaraf, sef cywaith gyda Paul Jones, yn gasgliad o glasuron hyfryd a ailddychmygwyd ar gyfer y clarinét a’r piano dan yr enw Group Listening.
Dyma’r ail dro i Stephen weithio gyda NTW, ar ôl ymddangos yn flaenorol yn The Insatiable, Inflatable Candylion.
Darllen Mwy
Dangos Llai