Gweithio Gyda Ni

Stephen Grant
PENNAETH CYLLID
Steve ydw i ac rwy’n Bennaeth Cyllid yn National Theatre Wales (NTW).
Ymunais yn hwyr â’r sector theatrig, gan ymuno â NTW yn gynnar yn 2011, ar ôl mwy na dau ddegawd mewn llywodraeth leol. Cyn hynny, yr oeddwn wedi graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn Cyfrifeg, ac yna cymhwyso fel cyfrifydd (CPFA).
Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd, ac rwy’n rheolwr ariannol profiadol sydd â diddordeb brwd yn agweddau technegol y swydd ac wrth ymateb yn greadigol (wel beth arall, wrth weithio yn y celfyddydau …..?) i heriau a datblygiadau newydd. Ar wahanol adegau rwyf wedi bod yn aelod o (anadlwch yn ddwfn……) Panel Cyfrifyddu Llywodraeth Leol Cymru y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth, a Fforwm Ymgysylltu Rhanbarthol y Grŵp Cyllid Elusennau ar gyfer De Orllewin Lloegr a Chymru. Rwyf hefyd wedi goruchwylio ymateb y cwmni i gyflwyno credydau Rhyddhad Treth Theatr.
Yn sicr, mae gweithio yn y celfyddydau yn wahanol i’r sector cyhoeddus, ond mae helpu i wneud i’r arian weithio fel bod y gelfyddyd yn gallu digwydd yn brofiad hynod bleserus a gwerth chweil, fel ag y mae gweithio i sefydliad sy’n caniatáu rhyddid i arloesi.
I ffwrdd o’r gwaith mae’r rhan fwyaf o’m hamser yn mynd ar fy nheulu (rwy’n briod â dau fab yn eu harddegau) a chwaraeon. Mae fy niddordebau chwaraeon yn canolbwyntio ar fod yn ddeiliad tocyn tymor yn Ninas Caerdydd, Gleision Caerdydd a Chriced Morgannwg, a gwylio fy meibion yn chwarae’r un campau, yn ogystal â rheoli tîm rygbi iau yng Nghlwb Rygbi Rhiwbeina.
Darllen Mwy
Dangos Llai