Tina Pasotra

Wedi fy ysbrydoli gan Audre Lorde a’i dyhead i ffynnu, rwy’n tybiobeth yw ystyr hyn ar adeg pan mae gelyniaeth mor amlwg. Rwy’n chwilfrydig iawn erioed am ddylunio a phŵer rhannu straeon mewn ffyrdd arbrofol. Rwy’n teimlo rheidrwydd i archwilio profiad ymdrochol sy’n creu gofodau cynhwysol i bobl eu mwynhau. Fel artist, rwy’n llawn cyffro i wireddu gweledigaeth ar y cyd, ac i ddod â safbwynt ffres i’m cartref yng Nghymru.”
Tina Pasotra

Mae dull Tina Pasotra fel artist wedi’i ysbrydoli gan y creadigrwydd sy’n deillio o weithio ar y cyd. Ar sail profiad personol a chywair y dreftadaeth ddiwylliannol, mae Tina’n credu trwy ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl a ffurfiau ar gelfyddyd mae’n bosibl gwireddu gwaith cyfoethog a diddorol. Ar hyn o bryd, mae Tina’n datblygu nifer o brosiectau yn gweithio gyda ffilm, dawns, ffasiwn a cherddoriaeth.

Darllen Mwy

Dangos Llai

  • Angharad Lee
  • Menna Elfyn
Font Resize
Contrast