CYHOEDDI’R CAST AR GYFER CYNHYRCHIAD NATIONAL THEATRE WALES: FOR ALL I CARE

Datganiad i’r Wasg
Dydd Gwener 5ed Gorffennaf
CYHOEDDI’R CAST AR GYFER CYNHYRCHIAD NATIONAL THEATRE WALES:
FOR ALL I CARE CYN Y PERFFORMIADAU YNG NGHAERDYDD A GŴYL YMYLOL CAEREDIN 2019
ACTORES Y GWYLL AC UN BORE MERCHER HANNAH DANIEL YN CAEL EI CHASTIO YN Y SIOE UN FENYW HON
- Bydd monolog bwerus National Theatre Wales, For All I Care yn cael ei rhagddangos yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd y mis hwn cyn cael ei pherfformio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn ystod yr haf
- Mae For All I Care, sydd wedi’i sgriptio gan y dramodydd Cymreig o fri, Alan Harris, yn archwilio profiad un fenyw o iechyd meddwl gyda ffraethineb ac angerdd nodedig
Bydd actores Y Gwyll ac Un Bore Mercher, Hannah Daniel, yn perfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yr haf hwn yng nghynhyrchiad National Theatre Wales o For All I Care. Gall cynulleidfaoedd yng Nghymru weld rhagddangosiadau Caeredin o’r sioe yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, ar 24 a 25 Gorffennaf 2019.
Mae For All I Care wedi’i hysgrifennu gan Alan Harris, y mae ei waith blaenorol, uchel ei glod a gyflwynwyd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn cynnwys Sugar Baby a How My Light is Spent. Mae’r cynhyrchiad wedi’i gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr theatr clodwiw Jac Ifan Moore.
Mae For All I Care yn un o ddau gynhyrchiad gan National Theatre Wales fydd yn cael eu llwyfannu yn Summerhall Caeredin drwy gydol Gŵyl Caeredin eleni. Bydd Cotton Fingers, a ysgrifennwyd gan Rachel Tresize, a’i gyfarwyddo gan Julia Thomas, gydag Amy Molloy yn y bri fran, hefyd yn rhedeg drwy’r ŵyl.
Meddai Kully Thiarai, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales, “Wrth i ni baratoi ar gyfer blwyddyn gyffrous arall yng Ngŵyl Caeredin, rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Hannah Daniel yn ymuno â ni ar gyfer ein cynhyrchiad o For All I Care, un o bum monolog a grëwyd y llynedd fel rhan o ddathliad NTW o’r GIG yn 70. Ar ôl taith lwyddiannus o amgylch Cymru gyda The Stick Maker Tales, gyda’r actor Llion Williams, a pherfformiadau o Cotton Fingers yn Iwerddon, Gogledd Iwerddon a Chaerdydd, rwyf wrth fy modd y bydd gan gynulleidfaoedd yng Nghymru gyfle arall yn awr i weld For All I Care. Bydd y darn ingol a phwerus hwn gan Alan Harris, yn cael ei berfformio yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yn ddiweddarach y mis hwn cyn mynd i Gaeredin a chael ei berfformio ochr yn ochr â Cotton Fingers i gynulleidfa ryngwladol.”
Mae sgript Harris, sy’n deimladwy, yn ddoniol ac yn symud yn gyflym, yn archwilio profiad un fenyw o iechyd meddwl wrth i For All I Care weld dau unigolyn yn cwrdd yn Nhredegar – man geni’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol – yng nghanol cysylltiadau a gwrthdrawiadau annisgwyl sy’n rhyngweu.
Wrth sôn am y ddrama, dywed yr awdur Alan Harris, “Mae angen atebion ar gymdeithas ar hyn o bryd; atebion i pam na fu, i bob pwrpas, unrhyw lywodraeth ers pleidlais Brexit, pam yn ddiweddar y teimlai’r Arolygiaeth Iechyd fod angen beirniadu’r ddarpariaeth o welyau i bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru, gallai’r rhestr “pam” hyn fynd ymlaen … Mae un peth yn sicr, nid yw’r status quo yn rhoi unrhyw atebion ac mae hynny’n gwthio pobl i mewn i weithredoedd radicalaidd. Mae hon yn ddrama am y dewisiadau anodd ac amhosib yn aml y mae pobl yn eu hwynebu bob dydd. Mae dau gymeriad canolog gwahanol iawn yn For All I Care, ill dwy’n dyheu am gysylltiad er gwaetha’r pwysau sydd arnynt. Mae angen y cysylltiad hwnnw arnom yn awr, o gymeriad i gymeriad, o actor i gynulleidfa i‘r byd ehangach.”
Clara a Nyri. Dwy fenyw wahanol iawn. Dau fywyd cymhleth. Y ddwy yn cael diwrnod gwael iawn.
Mae’r nyrs iechyd meddwl Nyri wedi deffro â phen mawr gyda dyn iau. Yn y cyfamser, mae Clara wedi datblygu winc cymhellol ac nid yw’n gallu cofio os yw wedi cymryd ei meddyginiaeth.
Mae angen i Nyri fynd i Ysbyty Glynebwy gan alw yn Greggs, ac mae Clara yn osgoi arwyddion – rhai anghwrtais iawn – sy’n dweud wrthi am ladd ei hun, fel y gall hi fwrw iddi gyda’i rhestr siopa i’r Diafol.
Mae For All I Care a Cotton Fingers yn ddwy fonolog o ‘’Love Letters to the NHS’, cyfres o fonologau a berfformiwyd am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2018 fel rhan o Ŵyl NHS70, dathliad National Theatre Wales o ben-blwydd y gwasanaeth yn 70.
Tra yng Nghaeredin, caiff For All I Care ei chyflwyno fel rhan o arddangosfa Caeredin – Dyma Gymru. Bydd Cotton Fingers yn cael ei chyflwyno fel rhan o Arddangosfa Caeredin y Cyngor Prydeinig 2019.
Mae National Theatre Wales yn dychwelyd i Ŵyl Ymylol Caeredin yr haf hwn ar ôl ymweld â sioeau megis Dark Philosophers, Wonderman a The Radicalisation of Bradley Manning – drama am y milwr Americanaidd a gafwyd yn euog o ryddhau cyfrinachau gwladol yr Unol Daleithiau i Wikileaks. Cyhoeddwyd cynhyrchiad NTW o Bradley Manning fel enillydd cyntaf Gwobr James Tait Black am ddrama yn yr ŵyl.
Bydd For All I Care yn cael ei pherfformio yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd ar 24 a 25 Gorffennaf 2019 am 7.30pm.
Caiff For All I Care ei pherfformio ym Mhrif Neuadd Summerhall, Caeredin rhwng 31 Gorffennaf a 25 Awst (ac eithrio dydd Llun) am 1.30pm
Caiff Cotton Fingers ei berfformio ym Mhrif Neuadd Summerhall, Caeredin rhwng 31 Gorffennaf a 25 Awst (ac eithrio dydd Llun) am 12.15pm