CYHOEDDWYD Y CAST AR GYFER CYNHYRCHIAD NATIONAL THEATRE WALES A ROYAL COURT THEATRE O ON BEAR RIDGE GAN ED THOMAS - National Theatre Wales

CYHOEDDWYD Y CAST AR GYFER CYNHYRCHIAD NATIONAL THEATRE WALES A ROYAL COURT THEATRE O ON BEAR RIDGE GAN ED THOMAS

Datganiad: 20 Mehefin 2019

NATIONAL THEATRE WALES A ROYAL COURT THEATRE
ON BEAR RIDGE

  • CYHOEDDWYD Y CAST AR GYFER CYNHYRCHIAD NATIONAL THEATRE WALES A ROYAL COURT THEATRE O ON BEAR RIDGE GAN ED THOMAS
  • Y CAST FYDD RAKIE AYOLA, JASON HUGHES, RHYS IFANS A SION DANIEL YOUNG
  • CAIFF ON BEAR RIDGE EI GYD-GYFARWYDDO GAN VICKY FEATHERSTONE AC ED THOMAS
  • BYDD Y DDRAMA I’W GWELD YN THEATR Y SHERMAN, CAERDYDD RHWNG 20 MEDI – 5 HYDREF 2019.  AC YNA YN Y ROYAL COURT THEATRE, LLUNDAIN RHWNG 24 HYDREF – 23 TACHWEDD 2019

Cyhoeddwyd y cast heddiw ar gyfer cyd-gynhyrchiad National Theatre Wales  a’r  Royal Court Theatre o On Bear Ridge gan yr awdur arobryn Ed Thomas (House of America a Gas Station Angel, Royal Court; Hinterland/Y Gwyll BBC/S4C/Netflix). Bydd Cyfarwyddwr Artistig y Royal Court Theatre Vicky Featherstone (The Cane a Cyprus Avenue, Royal Court) ac Ed Thomas yn cyd-gyfarwyddo’r stori lled-hunangofiannol hon am y lleoedd yr ydym yn eu gadael ar ôl, y marciau annileadwy y maent yn eu gwneud arnom ni, a’r atgofion annibynadwy yr ydym yn dal ein gafael ynddynt.

Bydd y cast yn cynnwys Rakie Ayola fel Noni.  Ar hyn o bryd mae’n perfformio Strange Fruit yn y Bush Theatre. Mae ei chredydau llwyfan blaenorol yn cynnwys Hermione Granger yn  Harry Potter and the Cursed Child (West End), The Half God of Rainfall (Kiln Theatre), a Leave to Remain (Lyric Hammersmith).  Ar y teledu mae hi’n fwyaf adnabyddus am ei rôl hirdymor fel Kyla Tyson yn Holby City (BBC).

Jason Hughes fydd yn chwarae The Captain.  Mae’n dychwelyd i’r Royal Court lle mae ei waith wedi cynnwys Violence and Son, 4:48 Psychosis a A Real Classy Affair. Mae ei rolau llwyfan diweddar eraill yn cynnwys The Goat, or Who Is Sylvia (West End) a Our Country’s Good (National Theatre).  Ar y teledu bu’n chwarae Warren yn This Life (BBC) a’r Ditectif Sarsiant Ben Jones yn Midsomer Murders (ITV).  Mae ei gredydau teledu diweddar eraill yn cynnwys Marcella (ITV), Death in Paradise a Three Girls (BBC).

Bydd Rhys Ifans yn chwarae John Daniel. Ar y llwyfan yn ddiweddar bu’n chwarae’r brif ran yn Exit the King, The Fool yn King Lear a denodd sylw mawr yn y sioe un dyn  Protest Song (oll ar gyfer National Theatre). Chwaraeodd hefyd rôl eiconig Scrooge yn A Christmas Carol (Old Vic). Mae gwaith ffilm helaeth Rhys yn cynnwys Elizabeth (cyf. Shekhar Kapur), Greenberg (cyf. Noah Baumbach), Nanny McPhee, Harry Potter, Mr Nice, AnonymousThe Amazing Spider-Man, Enduring Love ac wrth gwrs ffilm Richard Curtis, Notting Hill. Enillodd BAFTA am ei berfformiad fel Peter Cook yn Not Only But Always a bydd yn ymddangos nesaf yn y ffilm ddrama gomedi newydd Misbehaviour wedi’i  chyfarwyddo gan Philippa Lowethorpe a ffilm diweddaraf Matthew Vaughn Kingsman: The Great Game.

Cwblheir y cast gan Sion Daniel Young fel Ifan William.  Mae Sion yn dychwelyd i Theatr y Sherman a’r Royal Court yn dilyn Killology.  Mae ei gredydau ar gyfer National Theatre Wales yn cynnwys The Radicalisation of Bradley Manning, Mametz a The Village Social. Chwaraeodd brif rolau yn War Horse a The Curious Incident of the Dog in the Night-Time (y ddau yn y West End) a’r llynedd perfformiodd yn  Nightfall (Bridge Theatre).  Bydd yn ymddangos nesaf yn Jellyfish (National Theatre). Mae ei rolau teledu yn cynnwys Hinterland/ Y Gwyll BBC/S4C/Netflix a ysgrifennwyd hefyd gan Ed Thomas.

“Un funud roedd gennym gwsmeriaid, y funud nesaf doedd neb yma.”

Mewn pentref coll, lle aneglur ers ail-lunio’r ffiniau, yn cuddio o dan briwsionyn ar y map, mae Bear Ridge Stores yn dal i sefyll.

Ar ôl can mlynedd, mae’r cigydd a’r siop groser deuluol – lle ar gyfer manion bywyd, nwyddau gwaharddedig, a’r pwmp petrol olaf am 30 milltir – yn awr yn ddistaw.

Ond nid yw’r perchnogion John Daniel a Noni yn mynd i unman. Maent yn yfed yr hyn sydd ar ôl o’r whisgi yn herfeiddiol ac yn cofio dyddiau da, pan oedd pawb ar yr un ochr a’r hen iaith yn disgleirio.

Y tu allan yn y tywyllwch, mae ffigur yn symud tuag atynt.

Bydd y ddrama i’w gweld yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd (20 Medi – 5 Hydref 2019) ac yna’r Royal Court yn Llundain (24 Hydref – 23 Tachwedd 2019).

Sioeau Cyfredol Arrow icon Buddsoddi ynom Ni Arrow icon
Font Resize
Contrast