DATGANIAD I’R WASG THE STICK MAKER TALES

Datganiad i’r Wasg
Dyddiad rhyddhau: Dydd Mercher 20 Chwefror 2019
THE STICK MAKER TALES NATIONAL THEATRE WALES YN TEITHIO I LEOLIADAU AR DRAWS CYMRU
BYDD TEYRNGED TYNER PETER COX I GYMUNEDAU FFERMIO MYNYDD, WEDI’I PHERFFORMIO GAN LLION WILLIAMS, YN TEITHIO I 10 THEATR A LLEOLIAD CELFYDDYDAU EBRILL-MAI 2019
Caiff The Stick Maker Tales gan National Theatre Wales, sef sioe alwadol un dyn am amgylchedd caled fferm fynydd ac emosiynau dynol iawn ei ffermwr oedrannus, ei pherfformio i gynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru y gwanwyn hwn.
Wedi’i hysgrifennu gan Peter Cox a’i chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig y cwmni, Kully Thiarai, mae’n cyflwyno’r cynulleidfaoedd i ffermwr mynydd eofn a hindreuliedig o ganolbarth Cymru sy’n dynesu at ymddeol, sy’n myfyrio ar oes o waith ar y fferm a’i atgofion o fywyd cyn cychwyn y Gwasanaeth Iechyd.
Efallai bod y bugail Geth Roberts mewn gwth o oedran, ond mae’n dal i fyw ar ei ben ei hun, yn uchel i fyny yng Nghwm Elan uwchben tref farchnad Rhaeadr.
Mae’n storïwr heb ei ail sydd wedi treulio ei oes gyfan yn gweithio ar ei fferm wyllt a gwyntog, wedi’i chuddio ym mynyddoedd tragwyddol Cambria tragwyddol o dan harddwch eithriadol awyr nos cwm Elan.
Ond bellach mae Geth yn wynebu ei her fwyaf erioed: mae ei olwg yn methu, ac os nad yw’n gallu gweld yna does dim pwrpas i’w fywyd – ni all weithio ar y fferm, gofalu am ei annwyl gi na cherfio’r ffyn bugail cywrain y mae’n enwog amdanynt.
Mae’r actor arobryn Llion Williams yn ailgydio yn ei rôl fel Geth yn y daith tair wythnos hon, y mae tocynnau ar ei chyfer yn bellach ar werth.
Meddai’r Cyfarwyddwr, Kully Thiarai: “Roeddem ni wrth ein boddau’n creu’r sioe hardd a barddonol hon wedi’i ysgifennu gan Peter Cox a’i berfformio gan yr anhygoel Llion Williams y llynedd, ac ar bigau’r drain isio ei rannu gydfa chynulleidfa mwy eang ar draws Cymru. Mae’n talu teyrnged i, ac yn ymgydio yn ysbryd, rhai o’r ffermwyr mynydd wnaethom ni gwrdd â nhw. Mae cenedlaethau wedi bod yn gweithio ar y tir ac mae eu traddodiadau wedi eu pasio ymlaen. Mae The Stick Maker Tales yn dathlu y bobl a’r lle, ac yn gofyn i’w gynulleidfa ystyried beth sydd yn nyfodol y genhedlaeth nesaf o ffermwyr mynydd.”
Cafodd The Stick Maker Tales ei pherfformio’n wreiddiol yn Llandrindod a’r Trallwng yn mis Gorffennaf 2018; un o’r pum monolog neu lythyr caru i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol oedd yn rhan o ŵyl NHS70 NTW, yn dathlu 70ain pen-blwydd y gwasanaeth.
Gwybodaeth am berfformiadau
National Theatre Wales yn cyflwyno
THE STICK MAKER TALES
Ysgrifennwyd gan Peter Cox
Cyfarwyddwyd gan Kully Thiarai
Perfformiwyd gan Llion Williams
Dylunydd: Carl Davies
Dylunydd Goleuadau: Joe Fletcher
Dylunydd Sain: Ben Harrison
Dyddiadau: Nos Fawrth 23 a Nos Fercher 24 Ebrill 2019
Amser: 7.30pm
Lleoliad: Galeri, Caernarfon, Gwynedd
Swyddfa Docynnau: www.galericaernarfon.com
Ffôn: 01286 685 222
Dyddiad: Nos Iau 25 Ebrill 2019
Amser: 7.30pm
Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Gwynedd
Swyddfa Docynnau: www.neuadddwyfor.com
Ffôn: 01758 704 088
Dyddiadau: Nos Wener 26 a nos Sadwrn 27 Ebrill 2019
Amser: 7.45pm
Lleoliad: Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Aberystwyth, Ceredigion
Swyddfa Docynnau: www.aberystwythartscentre.co.uk
Ffôn: 01970 623 232
Dyddiadau: Nos Lun 29 a nos Fawrth 30 Ebrill 2019
Amser: 7.30pm
Lleoliad: Theatr y Fwrdeistref, Y Fenni, Sir Fynwy
Swyddfa Docynnau: boroughtheatreabergavenny.co.uk
Ffôn: 01873 850 805
Dyddiadau: Nos Fercher 1 a nos Iau 2 Mai 2019
Amser: 7.30pm
Lleoliad: Theatr y Torch, Aberdaugleddau, Sir Benfro
Swyddfa Docynnau: www.torchtheatre.co.uk
Ffôn: 01646 695 267
Dyddiad: Nos Wener 3 Mai 2019
Amser: 7.45pm
Lleoliad: Yr Hafren, y Drenewydd, Powys
Swyddfa Docynnau: www.thehafren.co.uk
Ffôn: 01686 614 555
Dyddiad: Nos Sadwrn 4 Mai 2019
Amser: 7.30pm
Lleoliad: Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe
Swyddfa Docynnau: www.taliesinartscentre.co.uk
Ffôn: 01792 602 060
Dyddiad: Nos Fawrth 7 Mai 2019
Amser: 7.30pm
Lleoliad: Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, Powys
Swyddfa Docynnau: www.brycheiniog.co.uk
Ffôn: 01874 611 622
Dyddiadau: Nos Fercher 8 a nos Iau 9 Mai 2019
Amser: 7.45pm
Lleoliad: Theatr Clwyd, yr Wyddgrug, Sir y Fflint
Swyddfa Docynnau: www.theatrclwyd.com
Ffôn: 01352 701 521
Dyddiadau: Nos Wener 10 a nos Sadwrn 11 Mai 2019
Amser: 7.30pm
Lleoliad: CARAD, Rhaeadr, Powys
Swyddfa Docynnau: nationaltheatrewales.org/cy
Ffôn: 01597 810 561
Canllaw oedran: 14+
Nodiadau i Olygyddion
THE STICK MAKER TALES
#ntwstickmaker
@NTWtweets
Mae’r awdur Peter Cox yn ddramodydd arobryn y dyfarnwyd iddo MBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2010 ar gyfer gwasanaethau i’r Celfyddydau yng Nghymru. Dechreuodd ei yrfa ysgrifennu yn y Royal Court Theatre, Llundain lle enillodd y Wobr George Devine bwysig. Mae ei ddramâu llwyfan wedi’u perfformio ledled Prydain – o’r Theatr Genedlaethol Frenhinol, Tŷ Opera Belfast a Chanolfan Mileniwm Cymru – i neuaddau Lles Glowyr. Rhwng 1986 a 2003, ysgrifennodd Peter 227 pennod o Brookside, y gyfres ddrama o fri gan Channel 4/S4C lle roedd yn aelod arweiniol o’r Writer’s Room a greodd storïau sawl llinyn ar gyfer mwy na 2,400 o benodau. Yn 1999 fe’i comisiynwyd i ysgrifennu ffilm mileniwm BBC Cymru, A Light On The Hill, a gyfarwyddwyd gan y diweddar Michael Bogdanov. Estynnodd Michael eu cydweithio ymhellach pan aeth ymlaen i gomisiynu Peter fel Ymgynghorydd Stori ac i ysgrifennu’r llyfr ar gyfer Amazing Grace, y sioe gerdd Cwmni Theatr Cymru hynod lwyddiannus gyda Peter Karrie, gyda’r gerddoriaeth a’r geiriau gan Mal Pope. Mae dramâu radio Peter wedi’u darlledu ar BBC Radio 3, Radio 4 a Radio Wales.
Mae’r Cyfarwyddwr Kully Thiarai wedi gweithio yn y celfyddydau perfformio ers blynyddoedd lawer fel gwneuthurwr theatr, cyfarwyddwr artistig ac ymgynghorydd celfyddydau. Roedd ei gyrfa gynnar mewn ysgrifennu newydd gyda chwmnïau teithiol cenedlaethol fel Red Ladder Theatre Company a Major Road, ill dau yn swydd Efrog. Ers hynny mae wedi arwain nifer o sefydliadau a chwmnïau gan gynnwys bod yn Gyfarwyddwr Artistig Contact Theatre, Manceinion, Leicester Haymarket Theatre, Theatre Writing Partnership a Red Ladder Theatre Company; yn comisiynu, cynhyrchu a chyfarwyddo gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae hi wedi creu ystod amrywiol o waith sy’n cwmpasu cymunedau, diwylliannau ac arddulliau perfformio; mae wedi cyfarwyddo gweithiau epig ar raddfa fawr, dramâu newydd a gwneud gwaith mewn mannau nad ydynt yn theatrau. Cyn ymuno â National Theatre Wales fel cyfarwyddwr artistig ym mis Mai 2016 hi oedd cyfarwyddwr sefydlu Cast yn Doncaster – lleoliad perfformio £22 miliwn newydd sy’n ystafell fyw ddiwylliannol ar gyfer y dref; lle i berfformio, cymryd rhan a phryfocio. Mae ei gwaith ar gyfer National Theatre Wales yn cynnwys Sisters (National Theatre Wales/Junoon), The Stick Maker Tales a Tide Whisperer. Mae Kully yn Gymrawd Theatr Clore, yn Gymrawd y Gymdeithas Gelf Frenhinol ac yn Ymddiriedolwr Gŵyl Ryngwladol Manceinion.
Mae’r perfformiwr Llion Williams o Ddyffryn Conwy ac mae’n Artist Cyswllt gyda Theatr Clwyd. Yn 2017, cyflawnodd y dwbl yng Ngwobrau Theatr Cymru; yr Actor Gorau yn Saesneg ar gyfer Belonging Re-Live a’r Actor Gorau yn Gymraeg ar gyfer Chwalfa (Theatr Genedlaethol Cymru). Derbyniodd hefyd Radd er Anrhydedd o Goleg Prifysgol Bangor. Mae ei waith theatr arall yn cynnwys: Iliad (Theatr Genedlaethol Cymru), Hosts, A Doll’s House, Abigail’s Party, The Herbal Bed The Journey of Mary Kelly, A Christmas Carol, Rape of the Fair Country, Gaslight a A Small Family Business (Clwyd Theatr Cymru), Porth y Byddar (Clwyd Theatr Cymru/Theatr Genedlaethol Cymru), Macbeth, Cariad Mr Bustl/Le Misanthrope, Y Pair/The Crucible, Y Gofalwr/The Caretaker, Iesu, Cysgod y Cryman, Bobi a Sami, a Y Storm/The Tempest (Theatr Genedlaethol Cymru). Y Cylch Sialc/The Chalk Circle, Un o’r Teulu/Relatively Speaking a Y Gelli Geirios/The Cherry Orchard (Theatr Gwynedd), Antigone, The Giant’s Embrace a Minamata (Theatr Powys), C’Mon Midffild, a Llanast/Carnage (Theatr Bara Caws), A History of Falling Things (New Vic, Stoke), Jack and the Beanstalk (Scarborough). Mae ei waith teledu yn cynnwys: Y Gwyll, Un Bore Mercher, Craith, Outside Time, A Mind to Kill, The Mystery Files, Death of Liberty, C’mon Midffild, Blodeuwedd, Ac Eto Nid Myfi a Gwaith Cartref. Mae ei waith radio yn cynnwys: Playboy of the Western World/Congrinero’r Gorllewin, Y Ffin a Dyddiadur Dyn Dŵad (BBC). Mae ei waith arall yn cynnwys: Pedr a’r Blaidd/Peter and The Wolf (Ensemble Cymru).
Mae delweddau cyhoeddusrwydd manylder uchel lliw ar gael ar gais.
Mae National Theatre Wales wedi bod yn gwneud cynyrchiadau Saesneg mewn lleoliadau ledled Cymru, y DU, yn rhyngwladol ac ar-lein ers mis Mawrth 2010. Mae’n gweithredu o leoliad bach yng nghanol dinas Caerdydd, ond mae’n gweithio ar draws y wlad a thu hwnt, gan ddefnyddio tirlun cyfoethog ac amrywiol Cymru, ei threfi, ei dinasoedd a’i phentrefi, ei straeon anhygoel a’i thalent gyfoethog yn ysbrydoliaeth. Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi National Theatre Wales.