National Theatre Wales yn cyhoeddi Network

6 Ebrill 2020
- National Theatre Wales yn cyhoeddi Network – rhaglen ddigidol newydd o gyfleoedd i wneuthurwyr theatr, wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth â dau o brif sefydliadau theatr Cymru, sef Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman – wedi’i datblygu mewn ymateb i effaith cyfyngiadau ar symudiad o ganlyniad i COVID-19
- Rhaglen wedi’i chynllunio i greu cyfleoedd gwaith hanfodol ar gyfer y diwydiant perfformio tra’n cysylltu ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau ar-lein yn ystod cyfnod o ynysu cymdeithasol
- Cyhoeddir BBC Cymru a BBC Arts, fel rhan o’u menter Culture in Quarantine, fel partneriaid comisiynu a digidol Network
- Mae galwadau comisiynau newydd a darlleniadau o ddramâu ymysg y cyfleoedd yn y rhaglen newydd a gyhoeddwyd heddiw
Lansiodd National Theatre Wales (NTW) raglen ddigidol newydd heddiw, a ddatblygwyd i greu cyfleoedd i wneuthurwyr theatr tra bod lleoliadau ar gau o ganlyniad i’r Coronafirws. Mae Network yn fenter ar-lein newydd sy’n anelu at gysylltu cymunedau, rhannu enydau ac ailddychmygu theatr fyw tra’n galluogi a meithrin y sector celfyddydau perfformio yng Nghymru.
Bydd Network yn cynnwys partneriaethau allweddol rhwng dau o gwmnïau cenedlaethol Cymru, ynghyd ag un o brif dai cynhyrchu Cymru, Theatr y Sherman, i ddarparu ymdeimlad o’r newydd o gymuned, cyfleoedd cyflogaeth hanfodol a’r ysgogiad i greu i sector theatr a pherfformio Cymru. Bydd BBC Cymru a BBC Arts yn gweithredu fel partneriaid comisiynu a digidol y rhaglen, gan gynnig cymorth darlledu a digidol i artistiaid sy’n gweithio ar y rhaglen, gan ddod â’r fenter newydd hon i’r gynulleidfa ehangach bosibl ar draws Cymru a’r DU.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig newydd NTW, Lorne Campbell, a ddechreuodd gyda’r cwmni yn ddiweddar,
“Fel National Theatre Wales, ac fel cydweithfa o bobl, rydym yn ymwybodol iawn o’n rôl wrth gefnogi, galluogi a meithrin y sector perfformio yng Nghymru. Rydym am greu cyfleoedd i wneuthurwyr theatr weithio, cydweithio a chreu, ac i gynulleidfaoedd a chymunedau gael mynediad at yr enydau byw gwerthfawr hynny o gysylltiad a chymuned sy’n gallu teimlo mor bell i ffwrdd yn ystod cyfnod o gyfyngiad ar symudiad.
Rwyf wrth fy modd ein bod yn cydweithio â dau o brif gwmnïau Theatr Cymru, sef Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman i gynnig cyfleoedd i artistiaid, cymunedau a chynulleidfaoedd brofi theatr newydd ac arloesol, y tro hwn ar lwyfan digidol. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am gymorth BBC Cymru a BBC Arts sy’n cefnogi’r comisiynau yn ogystal â darparu cymorth technegol a digidol hanfodol ar gyfer y rhaglen, gan sicrhau y gallwn gyrraedd cynulleidfaoedd ymhellach i ffwrdd i gysylltu ac ymgysylltu yn y darnau newydd hyn o waith.
Aeth ymlaen, “Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i greu cyfleoedd cyflogaeth i artistiaid yn ystod y cyfnod ansicr a bregus hwn. Mae hefyd yn ddyletswydd arnom i barhau i ddarparu i’n cynulleidfaoedd y profiad o theatr wych – theatr sy’n adrodd straeon. Mae straeon yn ein harwain i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas. Maent yn creu sgwrs a chysylltiad. Gallant roi ymdeimlad i bawb o’r genedl yn dod at ei gilydd tra ein bod ni i gyd yn profi ymdeimlad o ddatgysylltu – rhywbeth nad yw erioed wedi teimlo mor bwysig. Rydym yn gwmni a all rannu ein hadnoddau, ein harbenigedd a’n rhwydweithiau i wasanaethu cynulleidfaoedd, cymunedau a gwneuthurwyr theatr Cymru fel ei gilydd. Rydym yn ffodus i gael teulu gwych yma yn National Theatre Wales ac rwy’n falch o gael arwain y tîm i gynnig ffyrdd newydd ac arloesol i greu a chydweithio yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng cenedlaethol a byd-eang.”
Mae’r rhaglen Network yn cynnwys dau brosiect allweddol:
Comisiynau Digidol Newydd: Bydd NTW yn gweithio mewn partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru i wahodd artistiaid theatr Cymru i ddod o hyd i ymatebion arloesol, cyffrous a dynol yn ystod y cyfnod o gyfyngiad ar symudiad sy’n mynd rhagddo. Mae Comisiynau Digidol Newydd yn gyfle galwad agored am gomisiynau newydd i wneud theatr fyw mewn mannau digidol – theatr a fydd yn helpu cynulleidfaoedd, cymunedau a gwneuthurwyr theatr i ddod at ei gilydd tra byddwn ni i gyd yn cael ein cadw ar wahân.
Darlleniadau o Ddramâu: 12 Drama mewn mannau digidol. Bydd NTW a Theatr y Sherman yn cydweithio ag amrywiaeth o gwmnïau ac artistiaid annibynnol i gynhyrchu darlleniadau o ddramâu, gan arddangos talent dramodwyr, cwmnïau a gweithwyr creadigol ar draws Cymru. Bydd y bartneriaeth yn galluogi cyfarwyddwyr, actorion a dylunwyr o Gymru i gael eu cefnogi a’u hariannu’n llawn i ddarparu’r darlleniadau, ac ar yr un pryd yn darparu llwyfan i rannu gwaith brodorol, ynghyd â theitlau clasurol cyfoes sydd efallai heb eu perfformio eto yma yng Nghymru.
Wrth roi sylw ar y bartneriaeth rhwng dau gwmni theatr Cenedlaethol Cymru, dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, “Mae’r cyfnod heriol hwn yn gyfle i ni estyn allan at ein cynulleidfaoedd mewn modd hygyrch a chynhwysol, gan ofyn i’n cymuned greadigol ddod gyda ni ar antur newydd. Rwyf wrth fy modd bod Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales wedi dod ynghyd mewn cyfnod o argyfwng i gyflwyno cynllun dyfeisgar, amlieithog. Gallwn gyflawni cymaint yn fwy gyda’n gilydd ac rwy’n hyderus y gwelwn ni rhywbeth bendigedig o annisgwyl yn deillio o’r prosiectau hyn.”
Ychwanegodd Joe Murphy, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, “Yn y cyfnod dryslyd ac ansicr hwn, rwyf wedi fy synnu gan y nifer o bobol sy’n estyn allan i gysylltu â’i gilydd. Mae gweld a bod yn rhan o’r holl gydweithredu sy’n digwydd ar draws ein diwydiant wedi rhoi nerth i mi; ein diwydiant sydd wedi ymrwymo i gefnogi artistiaid a gwasanaethu’r gynulleidfa. Rydym wrth ein boddau o weithio gyda NTW ar y prosiect hwn a, mewn cyfnod ble mae adnoddau’n brin, mae Theatr y Sherman yn edrych ymlaen at gyfrannu’r adnoddau sydd gennym at ein cymuned a’n cynulleidfaoedd – ein arbenigaeth mewn dramatwrgiaeth, ein cydweithrediad creadigol, ac, wrth gwrs, ein amser.”
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, “Mae BBC Cymru yn ymrwymedig i gynnig i’n cynulleidfaoedd fynediad parhaus i ystod eang o gelfyddydau a diwylliant yn y cyfnod heriol hwn. Rydym yn falch iawn i adnewyddu ein cydweithrediad hirsefydlog gyda National Theatre Wales a hefyd i barhau â’n hymrwymiad sylweddol i ddrama Gymreig.”
Yn ogystal â Network, mae NTW hefyd yn ymuno â chwmnïau theatr, cyfarwyddwyr castio, ac asiantau ledled Cymru i groesawu graddedigion actio 2020 i’r diwydiant.
Mae nifer o actorion sy’n gorffen eu hyfforddiant wedi gorfod canslo eu sioeau terfynol hir ddisgwyliedig oherwydd y pandemig. Mewn ymateb i hyn, bydd NTW a’i bartneriaid yn helpu i gysylltu gweithwyr proffesiynol y diwydiant yng Nghymru sy’n awyddus i gwrdd â graddedigion newydd wrth iddynt gychwyn ar eu gyrfaoedd. Bydd gwneuthurwyr theatr Cymru a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn cynnig eu hamser a’u cyngor yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae NTW wedi gorfod addasu’n gyflym yn wyneb haint COVID-19. Fis diwethaf, canslwyd eu perfformiadau a drefnwyd o Hail Cremation!, gyda nifer o gynyrchiadau wedi’u had-drefnu neu eu gohirio am gyfnod amhenodol nes bod mwy o eglurder am hyd yr argyfwng yn dod i’r amlwg.
Cafodd yr holl gontractau cyflogaeth ar gyfer cast, criw a gweithwyr creadigol Hail Cremation! eu hanrhydeddu yn llawn gan National Theatre Wales.
Bydd TEAM NTW yn addasu i barhau â’i raglen pedair blynedd o waith sy’n canolbwyntio ar gyd-greu gyda chymunedau Sir Benfro a Wrecsam. Mae NTW yn gweithio gyda phanel TEAM i archwilio ffyrdd o roi gweithgareddau creadigol ar-lein ac ailffocysu gwaith ac adnoddau i gefnogi partneriaid llawr gwlad. Bydd The Agency, sy’n gweithio gyda phobl 15-25 oed o ardaloedd Butetown, Glanyrafon a Grangetown yng Nghaerdydd ar syniadau, hyfforddiant, cefnogaeth, cyllid a chyngor gan weithwyr proffesiynol y diwydiant i ddatblygu angerdd yn brosiectau sydd o fudd i gymunedau lleol, yn parhau i gefnogi a gweithio gyda’i Asiantau a’i bartneriaid gan addasu’r dull lle y bo’n bosibl i symud ar-lein.
Mae National Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru bellach yn croesawu cyflwyniadau ar gyfer eu Comisiynau Digidol Newydd gan Weithwyr Creadigol a Gwneuthurwyr Theatr ledled Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i gyflwyno comisiwn drwy ymweld â www.nationaltheatrewales.org
Hoffai National Theatre Wales fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i weithwyr rheng flaen Cymru am eu hymdrechion mawr i gadw’r genedl yn ddiogel. Meddai Lisa Maguire, Cynhyrchydd Gweithredol NTW, “Mae ein diolch diffuant i staff GIG Cymru a lleoliadau gofal cymdeithasol yn ogystal â gweithwyr allweddol eraill ledled y wlad. Peth teimladwy yw gweld ymateb cyflym y rhai sy’n helpu i addasu lleoliadau fel canolfannau celfyddydau, stadia rygbi a neuaddau cymunedol yn gyflym i ymateb i’r her sy’n wynebu cymunedau Cymru. Gyda’n gilydd rydym yn gryfach ac rydym yn obeithiol y gall cymuned y theatr Gymreig efelychu’r ysbryd yma yn ystod y cyfnod anghyffredin hwn.”