DATGANIAD I’R WASG STORM.3: TOGETHER AND ALONE

Datganiad i’r Wasg
Dyddiad rhyddhau: Dydd Iau 7 Chwefror 2019
POBL IFANC, MILFLWYDDOL CASNEWYDD YN CAMU I’R LLWYFAN AR GYFER STORM.3: TOGETHER AND ALONE
Bydd The Storm Cycle National Theatre Wales yn parhau ym mis Mawrth gyda sioe nodweddiadol o arloesol. Mae STORM.3: Together and Alone yn waith athronyddol, ffrwd ymwybod ar ryddid personol ac, yn unol â nodau’r Cylch, yn arbrawf theatrig rhyfeddol sy’n herio confensiynau a chadw chynulleidfaoedd ar flaenau’u traed.
Bydd y cynhyrchiad newydd hwn a grëwyd gan Mike Brookes, a wneir a pherfformir yng Nghasnewydd, yn cyferbynnu testun a ysbrydolwyd gan The Ethics of Ambiguity, casgliad rhyfeddol o draethodau a ysgrifennwyd gan Simone de Beauvoir yng nghanol y digalondid a’r optimistiaeth a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd, gyda darnau o ddatganiadau gwleidyddol cyfoes a darnau diwylliannol mwy cyfarwydd.
Daw ei gast rhyfeddol o actorion ac artistiaid y gair llafar o genhedlaeth milflwyddol cynyddol llafar yn ardal, sydd wedi’u tangynrychioli’n wleidyddol. Maent yn cynnwys Connor Allen, Justin Cliffe, Abigail Fitzgerald, Zaru Jonson, Rufus Mufasa, Seren Vickers, Poppy Rivers-Vincent ac Alexa Jones-Young.
Bydd STORM.3: Together and Alone yn cael ei wneud a’i berfformio yn The Neon yng Nghasnewydd, yn ystod yr wythnosau sy’n arwain at dynnu’n ôl arfaethedig y DU o’r UE. Mae tocynnau ar gyfer y sioe newydd arloesol hon nawr ar werth.
Dyma drydedd rhan The Storm Cycle National Theatre Wales; cyfres o gynyrchiadau amlinellol o theatr arbrofol a ddyfeisiwyd ac a gyfarwyddwyd gan Mike Brookes (gyda Mike Pearson, ar gyfer y ddwy ran gyntaf). Mae’r gweithiau amlgyfrwng hyn yn cael eu gwneud a’u perfformio mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, sef mecanwaith radical ar gyfer archwilio dwy thema allweddol; gwirionedd a thystiolaeth.
Gwybodaeth am Berfformiadau
National Theatre Wales yn cyflwyno
STORM.3: TOGETHER AND ALONE
RHAN O’R STORM CYCLE
Dyfeisiwyd a chrëwyd gan Mike Brookes
Yn seiliedig ar Pour une morale de l’ambiguïté gan Simone de Beauvoir
Dylunydd Sain: Mike Beer
Cyfansoddwr: Tic Ashfield
Cyfarwyddwr Cyswllt: Julia Thomas
Cyfarwyddwr sy’n dod i’r amlwg: Kyle Legall
Mae’r cast yn cynnwys: Connor Allen, Justin Cliffe, Abigail Fitzgerald, Zaru Jonson, Rufus Mufasa, Seren Vickers, Poppy Rivers-Vincent ac Alexa Jones-Young.
Dyddiadau ac Amseroedd: 21-23 Mawrth 2019, 7.30pm
Lleoliad: The Neon, Clarence Place, Casnewydd NP19 7AB
Swyddfa Docynnau
Ar-lein: nationaltheatrewales.org/cy/ntw_shows/storm-3-together-and-alone
Dros y ffôn: 029 2037 1689 (Noder: Mae ffi archebu o £1 y tocyn yn gymwys wrth archebu dros y ffôn)
Tocynnau: £10, £7.50 gost. yn cynnwys rhai dan 30 a thrigolion lleol
Canllaw oedran: 14+
Nodiadau i Olygyddion
Dilynwch STORM.3: Together and Alone ar Twitter:
#NTWStorm
@ntwtweets
Mae Mike Brookes yn artist, cyfarwyddwr a dylunydd arobryn, y mae ei waith bob amser wedi pontio cyfryngau. Cyd-sefydlodd y gyweithfa berfformio Pearson/Brookes ym 1997, gan ganolbwyntio ar waith perfformio rhyng-gyfryngol mewn lleoliad, ac yn fwyaf diweddar bu’n cyd-greu cyfres o weithiau o fri ar raddfa fawr mewn cydweithrediad â NTW – yn cynnwys The Persians, Coriolan/us ac Iliad. Mae ei waith wedi’i gomisiynu a’i gyflwyno’n eang ar draws Ewrop, Asia, Awstralasia, De America ac UDA, dros dri degawd o wneud theatr arloesol ac ymdrochol.
Mae delweddau cyhoeddusrwydd manylder uchel lliw a bywgraffiadau’r cast ar gael ar gais.
Mae National Theatre Wales wedi bod yn gwneud cynyrchiadau Saesneg mewn lleoliadau ledled Cymru, y DU, yn rhyngwladol ac ar-lein ers mis Mawrth 2010. Mae’n gweithredu o leoliad bach yng nghanol dinas Caerdydd, ond mae’n gweithio ar draws y wlad a thu hwnt, gan ddefnyddio tirlun cyfoethog ac amrywiol Cymru, ei threfi, ei dinasoedd a’i phentrefi, ei straeon anhygoel a’i thalent gyfoethog yn ysbrydoliaeth. Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi National Theatre Wales.