Rhestr Hir Awdur Preswyl Cyntaf Cymru 2019

Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r Rhestr Hir ar gyfer Awdur Preswyl Cyntaf Cymru 2019.

Mae wedi bod yn bleser darllen drwy’r cyflwyniadau ac rydym yn llawn cyffro am y cyfoeth o dalent ysgrifennu y mae’r fenter wedi’i ddatgelu. Mae pob un o’r 17 o’r sgriptiau ar y rhestr hir derfynol yn ddramâu gwreiddiol, cyfoes a chofiadwy sy’n dangos dawn ysgrifennu go iawn.

  1. A Better Land – Catherine Dyson
  2. All the Small Things – Greg Glover
  3. Canceltown – Jesse Schwenk
  4. Eric Writes – Iestyn Jones
  5. Forget Her Not – Rhys Edwards
  6. Gaffer – Cameron Loxdale
  7. Heart full – Matthew Ingram
  8. Impacted – Rhiannon Boyle
  9. Incarnate – Matthew Trevannion
  10. Missing – Rebekah Harrison
  11. Moonlight Grey – Rick Allden
  12. My Sister’s Name – Kevin Jones
  13. No Words – Tess Berry-Hart
  14. Oh! You Pretty Things – Rachel Harper
  15. Pulse – Leila Navabi
  16. Relics – Sian Owen
  17. You, the Jury – Sarah Louise Madden

Bydd y rhestr fer derfynol yn cael ei chyhoeddi ar 18 Medi. Yna caiff y sgriptiau terfynol hynny eu beirniadu gan yr awdur sgrin Matthew Hall, Comisiynydd Drama BBC Radio 4 Alison Hindell, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales Cymru Kully Thiarai, Swyddog Gweithredol Datblygu. BBC Studios Cymru Jenna Robins a Chynhyrchydd Datblygu BBC Writersroom Cymru, Helen Perry.

Bydd yr awdur buddugol yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar 2il Hydref yn Theatr y Sherman. Gallwch gofrestru am docynnau i’r seremoni yma.

Yna dyfernir i’r awdur buddugol gyfanswm bwrsari o £12,000 i gynorthwyo â’i leoliad am flwyddyn fel Awdur Preswyl Cymru. Yn ystod y 12 mis y bydd yn y swydd cynigir dau gyfnod preswyl dilynol iddo/iddi; 6 mis cychwynnol gyda BBC Cymru gan gynnwys gweithio gyda BBC Studios, ac yna 6 mis gyda National Theatre Wales yn cael mentora a hyfforddiant pwrpasol, a mynediad at arbenigedd a chysylltiadau. Yn ogystal bydd y sgript fuddugol yn cael ei chomisiynu, ei datblygu a’i chynhyrchu ar gyfer BBC Radio 4 a/neu BBC Sounds.

Mae Awdur Preswyl Cymru yn gynllun newydd o fri, â’r nod o hyrwyddo gyrfa awdur ar draws portffolio o gyfryngau ac sy’n cynnwys credyd darlledu gwarantedig.

Mae’n bartneriaeth rhwng BBC Cymru a National Theatre Wales, ynghyd â BBC Writersroom Cymru, gyda’r nod o gefnogi talent ysgrifennu newydd.

Sioeau Cyfredol Arrow icon Buddsoddi ynom Ni Arrow icon
Font Resize
Contrast