Petai Dr William Price (1800-1893) o gwmpas heddiw byddai’n seren y cyfryngau yn ogystal â bod yn feddyg hyfedr. Byddai ei wisgoedd yn ymddangos mewn cylchgronau ffasiwn; byddai’n bresenoldeb rheolaidd mewn gwyliau cerddoriaeth; byddai’n ymgyrchu dros Extinction Rebellion a’r GIG; byddai’n rhannu llwyfan gyda rhywun o’r un enw, sef Adam Price o Blaid Cymru, a byddai ei ddewis o drafnidiaeth, cerbyd wedi’i dynnu gan eifr, yn ennyn sylw lle bynnag yr âi.
Roedd Price yn ffigur cyferbyniol. Roedd yn credu’n angerddol mewn hawliau gweithwyr, ac eto roedd yn yfed siampên gyda diwydianwyr. Honnodd ei fod yn Archdderwydd, ac eto roedd y derwyddon yn ei gasáu oherwydd ei fod yn sbloets i gyd, ond roedd hwn yn ddyn o flaen ei amser. Ni fyddai Price yn trin ysmygwyr; roedd ganddo ddeiet yn seiliedig ar blanhigion; credai mai ymarfer corff oedd y llwybr gorau i iechyd cenedl, ac yr oedd yn ymarferwr yr hyn a ddaeth i gael ei adnabod yn ddiweddarach fel ‘cariad rhydd’. Cafodd Price ei ddiystyru mewn hanes ar y cyfan, ac roedd hyn oherwydd ei ymddygiad ecsentrig yn ddiweddarach mewn bywyd gyda llawer o sylwebyddion yn ei wawdio. Aeth o fod yn gymeriad grymus i ffigwr y gwnaed hwyl am ein ben. Fodd bynnag, yr oedd yn ddiddorol iawn darllen yr wythnos diwethaf fod Robert Downey Jnr wedi sianelu Dr Price ar gyfer ei rôl fel Dr Dolittle, ar ôl chwilio am ‘the weirdest Welsh doctor’ ar Google.
Digwyddodd weithred enwocaf Price pan oedd yn 83 ar ôl i’w fab pum mis oed Iesu Grist farw o achosion naturiol. Llosgodd Price gorff y babi ar fryn, gan achosi dicter mawr. Camodd yr heddlu i mewn i atal pobl rhag ymosod ar Price. Cafodd ei arestio a dilynodd treial enwog.
Ym mis Ionawr 2018 yn fuan ar ôl i mi gael fy nghomisiynu i ysgrifennu’r sioe gerdd hon, ganed fy merch, Sylvie. Cafodd ddwy lawdriniaeth ar y galon a threuliodd bum niwrnod ar beiriant cymorth bywyd. Dywedwyd wrthym fod siawns 50/50 y byddai hi’n goroesi, felly cefais gipolwg ar y galar y mae’n rhaid bod Dr Price a’i bartner, Gwen, oedd yn llawn cymaint o gymeriad ag ef, wedi’i ddioddef. Yn ffodus, mae Sylvie yn awr yn ferch ddwyflwydd oed, ac yn hapus, yn iach ac yn eithaf swnllyd.
Yn gerddorol dywedodd rywun fod y sioe yn gymysgedd o ‘gerddoriaeth werin ddinesig’ a ‘disgo tafarn’, ac mae’n anodd dadlau â hynny. Yn weledol, mae’r sioe gerdd yn gyfuniad o sioe ffasiynau swrealaidd (cynlluniodd Price ei ddillad coegwych ei hun), y ffilm ‘Cabaret’ a GIG Flaming Lips. Mae’r tîm creadigol sy’n cael ei arwain gan y Cyfarwyddwr, Adele Thomas, yn anhygoel, ac mae gennym griw gwych o actorion, dawnswyr a cherddorion, gyda Lee Mengo yn chwarae Dr Price.
Dylai fod yn hwyl!
National Theatre Wales
Hail Cremation!
Newbridge Memo, Trecelyn
23 Mawrth – 4 Ebrill 2020
Awdur Jon Tregenna
Cyfarwyddwr Adele Thomas
Jon Tregenna
Creodd Jon Tregenna Raw Material: Llareggub Revisited gyda’r artist Marc Rees ar gyfer National Theatre Wales yn 2014, ac mae wedi ysgrifennu dwy ddrama arall, Buggerall a The Prince Of Wales. I ffwrdd o’r llwyfan ysgrifennodd Jon e-lyfr y BBC, Dylan Thomas: The Road to Milk Wood; mae ganddo nifer o gredydau teledu, gan gynnwys The Bench a Belonging (BBC) a Cowbois Ac Injans (S4C); cynhyrchodd y sianel gomedi Youtube David Garland Jones, ac mae’n recordio cerddoriaeth fel The Mams. Mae Jon yn dod o Lanelli ac yn byw yn Nhalacharn erbyn hyn.