Bronwen Price
Cyfarwyddwr Gweithredol / Dirprwy Brif WeithredwrHelo
Rwy’n arwain ar bob rhan o redeg y busnes yn NTW, fel gwneud yn siŵr ein bod yn cael y gorau o’n Hymddiriedolwyr a’n staff, dadansoddi ein cynnydd a’n heffaith i artistiaid a chymunedau, a gweithio ar gynlluniau mawr i wneud mwy ar gyfer y sector theatr yng Nghymru. Rwy'n gwneud hyn i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau y gallwn gyda'r arian y mae'r cyhoedd yn ei fuddsoddi ynom.
Cysylltwch â mi os hoffech gael cymorth ar unrhyw agwedd ar weithrediadau - rwy'n hapus i rannu prosesau, polisïau, strategaethau a chynlluniau, yn ogystal â chynghori ar godi arian a sut i wella arferion busnes eich sefydliadau celfyddydol.
Rwy’n poeni am ddod â thegwch i fywydau unigol, ac rwy’n credu bod gan theatr rôl enfawr i’w chwarae wrth adeiladu empathi a chysylltiad rhwng elfennau drylliedig ein cymdeithas.
Cysylltwch â ni
Mae Bronwen yn dysgu Cymraeg - ac am i'w ddisgrifiad fod ar gael yn Gymraeg. Mae hi yn hapus i roi cynnig ar sgwrsio yn Gymraeg, ond yn gofyn i chi fod yn amyneddgar ag hi wrth iddi ddysgu.