Ellen Thomas
Cynorthwyydd TEAMShwmae, helo, haia
Rwy’n lledaenu’r gair ar gyfryngau cymdeithasol am ddigwyddiadau TEAM, cyfleoedd gwaith a gwaith cymunedol neu ymgyrchoedd yr ydym yn eu hedmygu, gan helpu i gefnogi grwpiau cymunedol a sefydliadau celfyddydol eraill, yn ogystal â’n rhai ni. Rwy'n cefnogi Cydweithio ym maes gweinyddu a gwerthuso, ac rwy'n aml yn ffotograffydd neu'n fideograffydd ar gyfer gweithdai a chynulliadau TEAM.
Rwy'n credu bod theatr yn dechrau gyda'r gymuned ac yn perthyn iddi, a gwrando ar ei hanghenion. Mae celfyddydau yn ei holl ffurfiau o gerddoriaeth i actio i farddoniaeth i beintio yn hollbwysig i'r profiad dynol; dylai adrodd straeon fod yn hygyrch i bawb, ni waeth o ble rydych chi'n dod na pha fywyd rydych chi wedi'i fyw. Mae TEAM yn cadarnhau fy nghred mai cyd-greu yw’r ffordd fwyaf ystyrlon o greu theatr. Y broses yw'r cyfan!
Efallai y bydd rhywun eisiau cysylltu â mi i helpu i weiddi am brosiect neu ddigwyddiad y maent yn gweithio arno, i gael gwybod am brosiect TEAM, neu i gysylltu â'n rhwydwaith.
Mae cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd yn bwysig i mi. Dathlu buddugoliaethau bach neu fawr, personol neu broffesiynol. Cerddoriaeth. Lleoliadau annibynnol. Anifeiliaid. Ffilm a Theledu. Comedi. Gwneud yr hyn sy'n eich gwneud chi'n hapus.
Cysylltwch â ni
Mae Ellen yn dysgu Cymraeg - ac am i'w ddisgrifiad fod ar gael yn Gymraeg. Mae hi yn hapus i roi cynnig ar sgwrsio yn Gymraeg, ond yn gofyn i chi fod yn amyneddgar ag hi wrth iddi ddysgu.