Rahim El Habachi
Cydymaith CreadigolSalam
Fy rôl i yw creu theatr a chysylltu ag artistiaid newydd, yn enwedig y rhai sydd ddim yn gwybod ble i ddechrau. Rwy'n gweithio gyda phobl a chymunedau eraill i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu a bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Rwy’n gwneud yr hyn rwy’n ei wneud i greu mwy o gyfleoedd i artistiaid heb gynrychiolaeth ddigonol, ac o ganlyniad gwneud theatr yn fwy hygyrch.
Efallai y byddwch chi'n estyn allan ataf i ddweud wrthyf am sioe gyffrous rydych chi'n ei chreu, neu i siarad am bob peth queer.
Mae straeon queer amrywiol yn y theatr yn wirioneddol bwysig i mi. Rwy'n teimlo bod y theatr yn dueddol o fod ag ymagwedd fonolith at straeon queer, er bod y gymuned queer yn cynnwys cymaint o leisiau, profiadau a chroestoriadau gwahanol.
Cysylltwch â ni
Mae Rahim yn dysgu Cymraeg - ac am i'w ddisgrifiad fod ar gael yn Gymraeg. Mae ef yn hapus i roi cynnig ar sgwrsio yn Gymraeg, ond yn gofyn i chi fod yn amyneddgar ag ef wrth iddo ddysgu.